From Wikipedia, the free encyclopedia
Teulu o rocedi gwennol (aml-ddefnydd) yw'r Falcon a gynhyrchir gan un o gwmniau Elon Musk: Space Exploration Technologies Exploration (neu SpaceX) ac a elwir yn 'rocedi lansio'. Yn 2017 roedd y rocedi a ddefnyddiwyd yn cynnwys y Falcon 1 a'r Falcon 9.
Enghraifft o'r canlynol | teulu o rocedi |
---|---|
Math | cerbyd lansio |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Rhan o | cerbydau lawnsio SpaceX |
Dechrau/Sefydlu | 2006 |
Yn cynnwys | Falcon 1, Falcon 9, Falcon Heavy |
Gwneuthurwr | SpaceX |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lansiwyd y Falcon 1 lwyddiannus yn gyntaf ym Medi 2008, wedi sawl methiant blaenorol. Mae'r Falcon 9 (EELV)-class gryn dipyn yn fwy na'r Falcon 1 ac roedd ei thaith lwyddiannus gyntaf i'r gofod ar ei lansiad cyntaf, sef ar 4 Mehefin 2010; defnyddiai gynllun 'gwennol', sef fod rhannau o'r roced yn dychwelyd i'r Ddaear er mwyn eu hailddefnyddio drachefn a thrachefn. Lansiwyd y Falcon Heavy, gyda thair rhan iddi am y tro cyntaf ar 6 Chwefror 2018.
Ymhlith cynlluniau'r cwmni SpaceX mae gwladychu'r blaned Mawrth. Bwriada'r cwmni hefyd barhau i gynllunio, i gynhyrchu ac yna i lansio prosiect BFR, a wnaed yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym Medi 2017. Dyma'r teulu o rocedi a fydd, ryw ddydd, yn cymryd drosodd o deulu'r Falcon.
Nododd Elon Musk, Prif Weithredwr a sefydlydd SpaceX y galwyd y teulu hwn yn "Falcon" ar ôl y Millennium Falcon o'r gyfres ffilm Star Wars.[1]
Uwchraddiwyd y Falcon 9 v1.2 (llysenw: "Full Thrust") o'r Falcon 9 V1.1 ac fe'i lansiwyd yn llwyddiannus am y tro cyntaf ar 22 Rhagfyr 2015 ar gyfer cludo ORBCOMM-2 o bad lansio SLC-40, Cape Canaveral. Yr uwchraddio oedd newid tanc y tanwydd hylif ocsigen i un llawer mwy: daeth hyn a chynydd o 33% ym mherfformiad "Full Thrust".[2]
Fel yr awgryma'r enw, mae'r roced yma'n medru cario prif-lwyth (payload) trwm. Addasiad ydyw o'r Falcon 9 ac mae'n cynnwys 3 Falcon 9 gyda'r tiwb canol wedi'i atgyfnerthu a dau bwstryr o'i bopty. Mae'r dair rhan wedi'u cynllunio er mwyn iddynt ddychwelyd i'r Ddaear a'u hail ddefnyddio dro ar ôl tro. Lansiwyd y Falcon Heavy am y tro cyntaf ar 6 Chwefror 2018. Fel arfer, mewn arbrofion cychwynnol fel hyn, cludir talp o goncrid fel prif-lwyth, ond y tro hwn, gyda synnwyr digrifwch arferol Elon Musk, cariwyd un o geir ei gwmni Tesla (cwmni ceir) , sef y Tesla Roadster, a hynny i gyfeiliant Space Oddity, gan David Bowie.[3]
Yn wahanol i'r rocedi a ddaeth ar ei ôl, nid oedd defnydd gwennol, aml-ddefnydd i'r Falcon 1. Fe'u cynhyrchwyd gan SpaceX rhwng 2006–2009.[4] Ar 28 Medi 2008, daeth y Falcon 1 y cerbyd gofod preifat (tanwydd hylif) cyntaf i fynd i orbit o amgylch y Ddaear. Roedd ganddi ddwy ran a defnyddiai hylif ocsigen (LOX/RP-1) fel tanwydd, gydag un injan-roced Merlin ac yna un injan-roced Kestrel.
Gohiriwyd y prosiectau canlynol:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.