geni babi pen ôl yn gyntaf From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae esgoriad ffolennol yn digwydd pan gaiff babi ei eni tin yn gyntaf yn hytrach na phen yn gyntaf. Ffolen (lluosog: ffolennau) yw boch tin / pen ôl[1].
Math | obstructed labor, Cyflwyniad y ffetws, malpresentation of fetus |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bydd gan ryw 3-5% o ferched beichiog yn ystod eu llawn dymor (37-40 wythnos yn feichiog) babi sy’n cyflwyno ar ei ffolennau[2]. Caiff y rhan fwyaf o fabanod yn y safle ffolennol eu geni trwy doriad Cesaraidd gan ei fod yn cael ei ystyried yn fwy diogel na geni trwy'r wain[3].
Mae mathau gwahanol o gyflwyniad ffolennol sy'n dibynnu ar sut mae coesau'r babi yn gorwedd.
Mewn tua 50% o achosion, ni ellir canfod achos dibynadwy am esgor ffolennol. Mewn mwy na 50% o achosion bydd y fam yn esgor ar ei phlentyn cyntaf-anedig. Mewn astudiaeth Norwyaidd, dangoswyd bod perthynas genetig neu deuluol: roedd dynion a menywod, a oedd wedi eu hesgor yn ffolennol 2.3 gwaith mwy tebygol o gael plentyn trwy esgoriad ffolennol na'r rhai a anwyd pen yn gyntaf.[4]
Mae ffactorau posib, sy'n ymwneud a'r plentyn a'r groth am gyflwyno yn ffolennol yn cynnwys:
Mae ffactorau mamol posibl am gyflwyno yn ffolennol yn cynnwys gamffurfiad y pelfis, tiwmorau cenhedlol a phelfig neu gamffurfiad y groth.
Mae'r rhan fwyaf o fabanod sydd yn cyflwyno'n ffolennol wedi 32 i 34 wythnos yn troi eu hunain i fod yn y safle pen yn gyntaf.
Os yw'r babi yn dal i fod yn y safle ffolennol wedi 37 wythnos, efallai y bydd yn bosibl i obstetregydd ei droi yn ben i lawr gan ddefnyddio techneg o'r enw fersiwn ceffalig allanol (external cephalic version neu ECV)[5].. Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, fel obstetregydd, yn ceisio troi'r babi i mewn i safle pen-i-lawr trwy roi pwysau ar yr abdomen. Mae'n weithdrefn ddiogel, er y gall fod ychydig yn anghyfforddus. Gellir troi tua 50% o fabanod ffolennol trwy ddefnyddio ECV, gan ganiatáu geni normal trwy'r wain.
Os bydd babi yn parhau i fod yn safle ffolennol tuag at ddiwedd beichiogrwydd, bydd y fam yn cael cynnig opsiwn toriad Ceseraidd. Mae ymchwil wedi dangos bod toriad Ceseraidd a gynlluniwyd yn fwy diogel ar gyfer y babi nag esgoriad ffolennol trwy'r wain[6].
Mae modd i esgor baban sydd yn cyflwyno'n ffolennol trwy'r wain. Mae meddygon yn cynghori'n gryf rhag yr opsiwn hwn os yw[7]:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.