ysgrifennwr, gwleidydd, newyddiadurwr, fforiwr (1865-1947) From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Syr Ernest Nathaniel Bennett (12 Rhagfyr 1865 – 2 Chwefror 1947), yn filwr, yn fforiwr, yn academydd, yn awdur ac yn wleidydd a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Caerdydd Canolog o 1929 i 1945.[1]
Ernest Nathaniel Bennett | |
---|---|
Ganwyd | 12 Rhagfyr 1865 |
Bu farw | 2 Chwefror 1947 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr, llenor, fforiwr |
Swydd | Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | George Bennett |
Mam | Eliza Fewson |
Priod | Marguerite Kleinwort |
Plant | Francis Bennett, Frederic Bennett, Marguerite Bennett |
Ganwyd Bennett yn Colombo, Sri Lanca yn fab i George Bennett, offeiriad yn Eglwys Loegr, ac Eleiza (née Fewson) ei wraig.
Priododd Marguerite Kleinwort, merch hynaf Herman Gerverus Kleinwort ym 1915, bu iddynt dri o blant gan gynnwys Frederic Bennet (1918-2002), Aelod Seneddol Ceidwadol o 1951 i 1987 ac Arglwydd Maenor Mawddwy.
Cafodd Bennett ei addysgu yn Ysgol Durham a Choleg Hertford, Rhydychen lle dderbyniodd gradd dosbarth cyntaf yn y mawrion ym 1889, a gradd dosbarth cyntaf mewn Diwinyddiaeth ym 1890. Ym 1891 fe'i gwnaed yn Gymrawd o Goleg Hertford a bu yn darlithio yno ac yng Ngholegau Wadham, Penfro a Lincoln hyd ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf ym 1906. Parhaodd i wasanaethu fel Cymrawd Allanol hyd ei briodas ym 1915, pan orfodwyd iddo ymddiswyddo gan fod disgwyl i Gymrodyr Hertford bod yn ddibriod ar y pryd.[2]
Gwasanaethodd Bennett fel Ohebydd Ryfel yn ystod Terfysg Creta, 1897; cafodd ei gofrestru fel gohebydd gan y Tyrciaid a chafodd ei gipio gan eu gelynion y Groegwyr a'i ddedfrydu i farwolaeth; cafodd ei ryddhau wedi i un o'r swyddogion ym myddin Groeg ei adnabod fel cyn cyd fyfyriwr yn Rhydychen[3]. Ym 1898 dilynodd y Cadfridog Kitchener i Khartoum fel gohebydd rhyfel gan ysgrifennu am Frwydr Omdurman lle llwyddodd byddin o 25,000 a arweiniwyd gan Brydain i oresgyn byddin o 50,000 o dderfisiaid, collodd y derfisisiaid tua 23,000 o filwyr o gymharu â 300 o golledion gan luoedd Prydain. Cwynodd Bennett am ymddygiad y lluoedd Prydeinig tuag at eu gelynion oedd wedi eu clwyfo, gan godi ymateb ffyrnig am ei ddiffyg gwladgarwch gan gefnogwyr Prydeindod.
Ym 1900 bu Bennett yn Is-gapten ar blatŵn o wirfoddolwyr o Brifysgolion Rhydychen a wasanaethodd yn Rhyfel y Bôr. Ym 1911 fe fu yn gohebu ar y rhyfel rhwng Twrci a'r Eidal. Roedd yn rhy hen i wasanaethu fel Milwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf gan hynny fe wirfoddolodd i wasanaethu fel Comisiynydd yn y Groes Goch Brydeinig gan wasanaethu yn Ffrainc, Gwlad Belg a Serbia; tra yn Serbia llwyddodd cenhadaeth y Groes Goch, dan arweinyddiaeth Bennett dod ac epidemig colera, a oedd eisoes wedi lladd 150,000 o bobl o dan reolaeth; dyfarnwyd iddo anrhydedd Urdd yr Eryr Wen gan Serbia am ei wasanaeth.
Ym 1915 ymunodd Bennett a staff XI Uned Droedfilwyr Byddin Alldeithiol Prydain, wedi hynny cafodd ei godi'n gapten ym Mhencadlys y XI Corfflu o'r Byddin ym 1917, bu hefyd yn gweithio gydag Uned Cudd Ymchwil y Morlys, daeth ei gyfnod milwrol i ben fel swyddog ym mhencadlys Byddin Brydeinig y Rhein ym 1919.[4]
Cafodd Bennett ei ethol fel Aelod Seneddol etholaeth Woodstock yn Swydd Rydychen ym 1906 gan golli'r sedd yn Etholiad Cyffredinol 1910. Ymadawodd a'r Blaid Ryddfrydol ym 1916 gan ymuno a'r Blaid Lafur, safodd fel ymgeisydd Llafur aflwyddiannus mewn sawl etholaeth hyd gael ei ethol yng Nghaerdydd Canolog ym 1929 gan gadw'r sedd hyd ei ymddeoliad o'r Senedd yn 1945.
Ym 1932 penodwyd Bennett yn Ddirprwy Postfeistr Cyffredinol y Llywodraeth Genedlaethol dan brif weinidogaeth Ramsay MacDonald.[4]
Roedd Bennett yn gwrthwynebu Cytundeb Versailles, y cytundeb a benderfynodd telerau diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a'r gosb i'r Almaen am ei ran yn y Rhyfel; roedd yn gefnogol i'r achos dyhuddiad wrth i densiynau codi rhwng yr Almaen a Phrydain yn y cyfnod a arweiniodd at yr Ail Ryfel Byd. Ym 1940 cafodd Aelod Seneddol Unoliaethol o'r Alban, Archiballd Ramsey ei ddalgadw o dan Ddeddf Amddiffyn y Deyrnas oherwydd ei gefnogaeth i Hitler, Natsïaeth a hil-laddiad Iddewon; wrth ei arestio canfuwyd yn ei feddiant llyfr a oedd yn cynnwys aelodau o'r Right Club (gair mwys oedd yn awgrymu pobl oedd yn gywir eu barn wleidyddol ac ar y dde wleidyddol) clwb o bobl a oedd yn cytuno â barn Ramsey. Pan gyhoeddwyd enwau'r aelodau ym 1989 cafwyd bod enw Bennett yn eu mysg.[5]
Roedd Bennett yn naturiaethwr amatur brwdfrydig, ar ymweliad i ynys Socotra ym 1896/7 canfu nifer o rywogaethau newydd o drychfilod a phryfed cop, enwyd nifer ohonynt ar ei ôl.
Roedd hefyd yn ymddiddori yn yr uwch-naturiol gan wario llawer o amser yn ymchwilio tai a oedd a thraddodiad bod ysbrydion yn eu cerdded.
Bu Syr Ernest farw ym 1947 a'i gladdu yn Rhydychen.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.