Enfys
From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhyfeddod neu ffenomenon optegol a meteorolegol yw enfys (Hen Lydaweg: envez; 'cylch neu 'fodrwy'), pan fydd sbectrwm o olau yn ymddangos yn yr awyr pan fo'r haul yn disgleirio ar ddiferion o leithder yn atmosffer y ddaear. Mae'n ymddangos ar ffurf bwa amryliw, gyda choch ar ran allanol y bwa, a dulas ar y rhan fewnol. Caiff ei greu pan fo golau o fewn diferion o ddŵr yn cael ei adlewyrchu, ei blygu (neu ei wrthdori) a'i wasgaru.
Mae enfys yn ymestyn dros sbectrwm di-dor o liwiau; mae'r bandiau a welir yn ganlyniad i olwg lliw pobol. Disgrifir y gyfres o liwiau'n gyffredinol fel coch, oren, melyn, gwyrdd, glas, indigo a fioled. Gellir eu dwyn i'r cof wrth adrodd y cofair:
Caradog o'r mynydd gafodd gig i'w fwyta".[1]
neu
Collodd Owain Morgan Gar Glas Pan Faglodd (coch oren melyn gwyrdd glas porffor fioled)[2]
Gall yr enfys fod ar ffurf cylch cyfan ond dim ond rhan ohoni mae'r gwyliwr cyffredin, fel arfer, yn gweld ohoni - bwa'n unig ac nid cylch.[3]
Gall enfys gael ei achosi gan ffurfiau eraill o ddŵr heblaw glaw, megis niwl, olew a gwlith.
Nid yw enfys wedi'i leoli mewn un lle, ond mae'n ymddangos mewn rhith optegol i'r gwyliwr ei fod. Ongl y golau, wrth iddo blygu o fewn y diferion sy'n achosi hyn, mewn perthynas i ongl y gwyliwr a tharddiad y golau (yr haul yn yr achos hwn). Nid yw'r enfys felly'n wrthrych sy'n bodoli mewn un man, ac ni fedrir ei gyffwrdd. Dim ond ar ongl o 42 gradd o'r cyfeiriad dirgroes y gellir ei weld.