![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/60/Bundesarchiv_Bild_102-14194%252C_Emanuel_Lasker.jpg/640px-Bundesarchiv_Bild_102-14194%252C_Emanuel_Lasker.jpg&w=640&q=50)
Emanuel Lasker
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Emanuel Lasker (24 Rhagfyr 1868 - 11 Ionawr 1941) yn chwaraewr gwyddbwyll, mathemategydd, ac athronydd Almaenig. Ef oedd ail Bencampwr Gwyddbwyll y Byd, am gyfnod o 27 mlynedd, o 1894 i 1921, teyrnasiad hiraf unrhyw Bencampwr. Ar ei anterth, roedd Lasker yn un o'r pencampwyr amlycaf, ac fe'i ystyrir yn un o'r chwaraewr cryfaf mewn hanes hyd heddiw.
Emanuel Lasker | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Rhagfyr 1868 ![]() Barlinek ![]() |
Bu farw | 11 Ionawr 1941 ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen, Gweriniaeth Weimar ![]() |
Addysg | doethuriaeth ![]() |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | mathemategydd, chwaraewr gwyddbwyll, bridge player, athronydd, arbenigwr gwyddbwyll ![]() |
Cyflogwr | |
Priod | Martha Lasker ![]() |
Gwobr/au | pencampwr gwyddbwyll y byd, Hall of Fame des deutschen Sports ![]() |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Ymerodraeth yr Almaen ![]() |
Dywedai ei gyfoeswyr bod Lasker yn defnyddio agwedd "seicolegol" at y gêm, a'i fod weithiau'n chwarae symudiadau israddol yn fwriadol er mwyn drysu ei wrthwynebwyr. Dangosodd dadansoddiad diweddar, fodd bynnag, ei fod o flaen ei amser ac yn defnyddio dulliau mwy hyblyg na'i gyfoeswyr, a oedd yn drysu llawer ohonynt. Roedd Lasker yn astudio'r dadansoddiadau cyfoes o'r agoriadau ond yn anghytuno â llawer ohonynt. Cyhoeddodd gylchgronau gwyddbwyll a phum llyfr gwyddbwyll, ond cafodd chwaraewyr a sylwebwyr hi'n anodd dysgu gwersi o'i ddulliau.
Cyfrannodd Lasker at ddatblygiad gemau eraill. Yr oedd yn chwaraewr 'contract bridge' o'r radd flaenaf[1] ac ysgrifennodd am bridge, Go, a'r gem ddyfeisiodd ei hun, Lasca. Cyflwynodd brobem yn ei lyfrau am gemau sy'n dal i gael ei hystyried yn nodedig mewn dadansoddiad mathemategol o gemau cardiau. Roedd Lasker yn fathemategydd ymchwil a oedd yn adnabyddus am ei gyfraniadau i algebra cymunol, a oedd yn cynnwys profi dadelfeniad sylfaenol o ddelfrydau modrwyau polynomaidd. Fodd bynnag, ychydig iawn o sylw a gafodd ei weithiau athronyddol, a'r ddrama a gyd-ysgrifennodd.