dinas a phlwyf sifil yn Swydd Gaergrawnt From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas a phlwyf sifil yn Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr, yw Ely.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Dwyrain Swydd Gaergrawnt. Saif 14 milltir (23 km) i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Caergrawnt a thua 80 milltir (129 km) o ddinas Llundain.
Math | dinas, plwyf sifil gyda statws dinas, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal Dwyrain Swydd Gaergrawnt |
Poblogaeth | 20,256 |
Gefeilldref/i | Ribe |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaergrawnt (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 23 mi² |
Gerllaw | Afon Great Ouse |
Yn ffinio gyda | Little Downham |
Cyfesurynnau | 52.3981°N 0.2622°E |
Cod SYG | E04012829, E04001630 |
Cod OS | TL5379 |
Cod post | CB6, CB7 |
Mae poblogaeth y ddinas yn 20,256 (Cyfrifiad 2011) sy'n ei gwneud yn un o ddinasoedd lleiaf Lloegr.[2][3]
Sefydlodd Æthelthryth (Etheldreda) abaty yn Ely yn 673 OC ac yn 1083 dechreuwyd codi eglwys gadeiriol ar y safle gan y Normaniaid a thyfodd tref ac wedyn dinas o gwmpas yr eglwys. Ailwampiwyd y Gadeirlan yn 1845 a 1870 gan y pensaer George Gilbert Scott.
Amaethyddiaeth ydy asgwrn cefn economi'r ddinas, bellach, ers i'r canlynol ddod i ben: cynaeafu'r pren helyg, magu llysywod, torri mawn a dal adar i'w gwerthu a'u bwyta.
Poblogaeth Hanesyddol Ely | |||||||||||
Blwyddyn | 1801 | 1811 | 1821 | 1831 | 1841 | 1851 | 1861 | 1871 | 1881 | 1891 | 1901 |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Poblogaeth | 3,948 | 4,249 | 5,079 | 6,189 | 6,849 | 7,632 | 7,982 | 8,166 | 8,171 | 8,017 | 7,803 |
Blwyddyn | 1911 | 1921 | 1931 | 1941 | 1951 | 1961 | 1971 | 1981 | 1991 | 2001 | 2011 |
Poblogaeth | 7,917 | 7,690 | 8,381 | [4] | 9,988 | 9,803 | 9,966 | 10,392 | 11,291 | 15,102 | 20,256 |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.