Swydd Gaergrawnt

swydd serimonïol yn Lloegr From Wikipedia, the free encyclopedia

Swydd Gaergrawnt

Sir seremonïol a sir hanesyddol yn Nwyrain Lloegr yw Swydd Gaergrawnt (Saesneg: Cambridgeshire). Mae'r sir hanesyddol yn ffinio â Swydd Lincoln a Norfolk yn y gogledd, Suffolk yn y dwyrain, Essex yn y de-ddwyrain, a Swydd Northampton a Swydd Huntingdon yn y gorllewin. Caergrawnt yw'r dref sirol. Roedd Peterborough yn rhan o Swydd Gaergrawnt yn weinyddol o 1974 tan 1998, a hi oedd ei dinas fwyaf, ond bellach mae'n cael ei gweinyddu fel awdurdod unedol. Cafodd sir hanesyddol Caergrawnt ei huno gyda Swydd Huntingdon, a Peterborough sydd yn hanesyddol yn rhan o Swydd Northampton, yn weinyddol yn 1974 i ffurfio sir weinyddol o'r un enw ond yn fwy o faint o lawer.

Thumb
Lleoliad Swydd Gaergrawnt yn Lloegr
Ffeithiau sydyn Math, Ardal weinyddol ...
Swydd Gaergrawnt
Thumb
Thumb
Mathsiroedd seremonïol Lloegr 
Ardal weinyddolDwyrain Lloegr, Lloegr
PrifddinasCaergrawnt 
Poblogaeth859,830 
Daearyddiaeth
Gwlad Lloegr
Arwynebedd3,389.6122 km² 
Yn ffinio gydaSwydd Hertford, Essex, Swydd Lincoln, Norfolk, Suffolk, Swydd Bedford, Swydd Northampton 
Cyfesurynnau52.3°N 0.000000°E 
GB-CAM 
Thumb
Cau

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth

Ardaloedd awdurdod lleol

Rhennir y sir yn bum ardal an-fetropolitan ac un awdurdod unedol:

Thumb
  1. Dinas Peterborough – awdurdod unedol
  2. Ardal Fenland
  3. Huntingdonshire
  4. Ardal Dwyrain Swydd Gaergrawnt
  5. Ardal De Swydd Gaergrawnt
  6. Dinas Caergrawnt

Etholaethau seneddol

Rhennir y sir yn saith etholaeth seneddol yn San Steffan:

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.