From Wikipedia, the free encyclopedia
Cadeirlan Anglicanaidd a leolir yng Nghaerwrangon, Lloegr, yw Eglwys Gadeiriol Caerwrangon. Dyma sedd esgob Caerwrangon. Priordy ar gyfer Urdd Sant Bened oedd yr adeilad yn wreiddiol, ac fe'i dyrchafwyd i statws cadeirlan yn y Diwygiad Protestannaidd. Fe'i adeiladwyd rhwng 1084 a 1504 a gellir olrhain yno pob cam yn hanes pensaernïaeth Lloegr yn ystod y canrifoedd hynny: yr addull Normanaidd (Romanésg) yn y gladdgell, y cabidyldy cylchog ac ambell i fan arall, a'r tri math o arddull Gothig Seisnig (Cynnar, Addurnedig a Pherpendicwlar). Ceir nifer fawr o gofadeiladau yno gan gerflunwyr a phenseiri megis Jean-François Roubiliac, Joseph Nollekens, Robert Adam a Francis Chantrey. Fe'i adnewyddwyd yn helaeth rhwng 1857 a 1863 gan A. E. Perkins a George Gilbert Scott. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I.[1]
Eglwys Gadeiriol Caerwrangon, gydag Afon Hafren yn y blaendir | |
Math | cadeirlan Anglicanaidd |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Caerwrangon |
Sir | Dinas Caerwrangon |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.1887°N 2.2208°W |
Cod OS | SO8500254520 |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Normanaidd, pensaernïaeth Gothig, pensaernïaeth Gothig Seisnig |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Cysegrwyd i | y Forwyn Fair |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Caerwrangon |
Priododd Llywelyn ap Gruffudd ac Elinor de Montfort yma ar 13 Hydref 1278.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.