John, brenin Lloegr

teyrn (1166-1216) From Wikipedia, the free encyclopedia

John, brenin Lloegr
Remove ads

Brenin Lloegr o 6 Ebrill 1199 tan ei farwolaeth oedd John (24 Rhagfyr 116618/19 Hydref 1216). Ganwyd yn Rhydychen, yn bumed mab (a'r ieuengaf) i Harri II, brenin Lloegr, a'i wraig Eleanor o Aquitaine.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Remove ads

Cafodd ei yrru gan ei dad i Iwerddon yn 1185 ond bu rhaid i Harri ei alw'n ôl am fod cwynion am ei ymddygiad yno.

Cafodd ei goroni'n frenin Lloegr yn Abaty Westminster ar 27 Mai 1199. Yn 1189 priododd ag Isabella o Gaerloyw, merch ac etifedd William Fitz Robert, Ail Iarll Caerloyw. Nid oedd iddynt blant ac fe gawsant ysgariad tua'r adeg y daeth John ar yr orsedd. Ailbriododd John ag Isabella d'Angoulême a oedd ugain mlynedd yn iau nag ef, ar 24 Awst 1200.

Gorfodwyd ef i lofnodi'r Siarter Fawr (Magna Carta) gan y barwniaid a'r eglwys ar 15 Mehefin 1215.

Priododd ei ferch Siwan â'r tywysog Llywelyn Fawr.

Bu farw yn Newark, 19 Hydref 1216.

Remove ads

Plant

Gyda'i wraig Isabella d'Angoulême

Rhagflaenydd:
Rhisiart I
Brenin Lloegr
6 Ebrill 1199 – 18/19 Hydref 1216
Olynydd:
Harri III
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads