Effros
genws o blanhigion / From Wikipedia, the free encyclopedia
Genws o tua 450 rhywogaeth o blanhigion blodeuol yw Effros neu Euphrasia. Mae'n perthyn i deulu'r gorfanadl (Orobanchaceae). Maen nhw'n lled-barasitig ar laswelltau a phlanhigion eraill. Daw'r enw Saesneg, eyebright, o'r gred draddodiadol y gallant wella anhwylderau'r llygaid. Mae enwau Cymraeg eraill yn cynnwys torfagl, llygaid Crist a gloywlys.[1] Mae 21 rhywogaeth a llawer o gymysgrywiau i'w canfod ar ynysoedd Prydain ac Iwerddon.[2].
Effros | |
---|---|
Effros blodau mawr (Euphrasia rostkoviana) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Urdd: | Lamiales |
Teulu: | Orobanchaceae |
Llwyth: | Rhinantheae |
Genws: | Euphrasia L. |
Rhywogaethau | |
Tua 450, gan gynnwys: |
Ceir hyd i lawer o rywogaethau mewn dolydd alpaidd neu is-alpaidd, lle mae eira yn gyffredin. Mae blodau Effros yn tyfu ar ben eithaf y planhigyn, ac mae ganddynt gymesuredd dwyochrog gyda phetal isaf siap gwefus. Piws, fioled a gwyn yw'r lliwiau mwyaf cyffredin. Mae gan rhai rhywogaethau farciau melyn ar y betal isaf, ac mae'r marciau yma yn fodd o ddenu peillwyr.