Dysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Athrawiaethau'r Eglwys Gatholig ynglŷn â moeseg gymdeithasol, urddas y ddynolryw, a lles cyffredin yw dysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig. Mae'n ymdrin â gormes, rôl y wladwriaeth, datganoliaeth, trefnu cymdeithasol, cyfiawnder cymdeithasol, a dosraniad cyfoeth. Dechreuodd dysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig fodern yn sgil cyhoeddi'r cylchlythyr Rerum Novarum gan y Pab Leo XIII yn 1891, sy'n dadlau dros ddosraniadaeth economaidd. Mae'n adeiladu ar hen gorff o ddiwinyddiaeth a syniadaeth foesegol gan ysgrifenwyr Catholig, yn eu plith Tomos o Acwin ac Awstin o Hippo, yn ogystal â'i phrif ffynhonnell y Beibl a thraddodiad yr Eglwys Gristnogol sy'n olrhain ei hanes i'r Dwyrain Agos hynafol.[1]
Nodweddir dysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig gan feirniadaeth o fodernedd ac ideolegau'r adenydd chwith a dde. Ers diwedd y 19g, mae sawl pab wedi lladd ar agweddau o syniadaeth a mudiadau rhyddfrydiaeth, comiwnyddiaeth, ffeministiaeth,[2][3] anffyddiaeth,[4] sosialaeth,[5] ffasgaeth, cyfalafiaeth,[5] a Natsïaeth.[6]