Dyfodoleg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Am y mudiad celf, gweler dyfodoliaeth.
Astudiaeth argoelion presennol er mwyn rhagweld datblygiadau'r dyfodol yw dyfodoleg[1] neu astudiaethau'r dyfodol. Bu llenorion yn damcaniaethu ynghylch y dyfodol ers dyfodiad llenyddiaeth iwtopaidd a ffuglen wyddonol, ond datblygodd dyfodoleg fel maes methodolegol yn y 1940au, gan adeiladu ar y "rhagweld technolegol" a ddaeth yn bwysig i'r lluoedd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[2]