From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Dyfodoliaeth (Saesneg: Futurism, Eidaleg Futurismo) yn fudiad celfyddydol a diwylliannol yn yr Eidal ar ddechrau’r 20g a geisiai ddisodli ffurfiau traddodiadol a chyfleu yn eu lle, symudiad, grym ac egni prosesau mecanyddol.[1]
Delwedd:Dynamism of a Biker (1913) by Umberto Boccioni.jpg, Aldo Palazzeschi, Carlo Carrà, Giovanni Papini, Umberto Boccioni, Filippo Tommaso Marinetti, 1914.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1909 |
Sylfaenydd | Filippo Tommaso Marinetti |
Gwladwriaeth | yr Eidal, Rwsia, Gwlad Pwyl |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er yn ffenomen Eidalaidd yn bennaf, bu symudiadau tebyg yn Rwsia, Ffrainc a nifer o wledydd eraill.
Archwiliodd y Dyfodolwyr amrywiaeth fawr o gyfryngau, o beintio i gerflunio, llenyddiaeth, barddoniaeth, theatr, cerddoriaeth, pensaernïaeth, dawns, ffotograffiaeth, ffilm a hyd yn oed gastronomeg.
Prif sylfaenydd mudiad y Futuristi oedd y bardd Filippo Tommaso Marinetti a ysgrifennodd am 'harddwch cyflymdra' ac am 'chwalu amgueddfeydd a llyfrgelloedd' am iddyn nhw fod yn perthyn i ddiwylliant traddodiadol. Roedd am weld celfyddyd yn datblygu'n barhaus i'r dyfodol. Y newydd sbon disodli'r diweddaraf yn am iddi fod yn sych a statig a pherthyn i'r gorffennol yn barod.
Cyhoeddodd ei Manifesto del Futurismo ym 1908 a ymddangosodd yn gyntaf mewn cyfrol o farddoniaeth a gyhoeddwyd ym Milan ym ac wedyn mewn papur newydd Eidalaidd Gazzetta dell'Emilia. Ail-gyhoeddwyd y maniffesto yn Ffrangeg ar dudalen flaen Le Figaro, un o brif bapurau newydd Ffrainc, ar 20 Chwefror, 1909.
Y Maniffesto Syflaenu Prif pwyntiau Manifesto del Futurismo, gan Filippo Tommaso Marinetti, 1908-9 [2]
Mabwysiadwyd yn frwdfrydig syniadau Marinetti gan grŵp o arlunwyr ifanc ym Milan - Umberto Boccioni, Luigi Russolo a Carlo Carrà a datblygodd ei syniadaeth yn eu peintiadau a gyhoeddodd Manifesto dei pittori futuristi (mainiffesto peintwyr y dyfodol) ym 1910 gan ddatgan:
Rydan ni am ymladd yn ffyrnig yn erbyn crefydd eithafol, anymwybodol a snobyddlyd y gorffennol, sydd yn cael ei fwydo gan ddylanwad anfad amgueddfeydd. Rydan ni'n rebelio yn erbyn edmygedd diymadferth o hen gynfasau, hen gerfluniau a hen bethau, ac yn erbyn y brwdfrydedd dros bob dim sydd wedi'u pydru, yn fudur ac wedi'u rhydu gan amser; credwn fod y dirmyg cyffredin o bopeth ifanc, newydd a chalonogol mewn bywyd yn anghyfiawn ac yn drosedd. [3][4]
Gyda dyfodiad yr oes fecanyddol ac ymddangosiad trenau, ceir ac awyrennau a oedd yn gallu cyrraedd cyflymderau nad oedd wedi'u gweld o'r blaen roedd y Futuristi am gyfleu cyffro a symudiad yr oes newydd yn eu celf ac yn disodli gwaith statig, traddodiadol.
Roedd diddordeb arbennig ganddynt yng ngwaith y ffotograffydd 19g Étienne-Jules Marey, a datblygodd gwaith crono-ffotogrffeg a oedd yn dangos am y tro cyntaf sut oedd symudiad mecanyddol pobl ac anifeilaidd. [5]
Roedd gwaith Marey'n arbennig o ddylanwadol i weithiau Futuristi fel Umberto Boccioni a'i gynfas Egni y Bieciwr (1913) sy'n cyfleu symudiad a bywiogrwydd biec a Giacomo Balla a'i waith enwog Egni Ci ar Dennyn[dolen farw] sy'n dangos symudiad ci, tennyn a choesau perchnnog y ci wthi iddynt fynd am dro.
Cafodd waith y Futuristi Eidaleg ddylanwad dros fudiadau celfyddydol arloesol eraill, yn arbennig celf haniaethol (abstract), Ciwbiaeth, Suprematism, Lluniadaeth (Constructivism) a Dada.
Yn Rwsia ysbrydolwyd arlunwyr fel Kazimir Malevich a llenorion fel Vladimir Mayakovsky gan y mudiad Eidalaidd a chredwyd mudiad Dyfodoliaeth Rwsieg arloesol.
Tra roedd llawer o fudiadau celfyddydol ac arlunwyr yr 20g yn gwrthwynebu rhyfel ac yn cyfleu ei erchyllterau. Roedd y Dyfodolwyr, ar y llaw arall, yn frwdfrydig dros ryfel a gwladgarwch ac o blaid i'r Eidal cymryd rhan yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Pwynt rhif 9 ym maniffesto Marinetti 1909 oedd Bydden ni'n clodfori rhyfel – unig hylendid i'r byd – milwriaeth, gwladgarwch, yr arwydd dinistriol ymladdwyr rhyddid, syniadau hyfryd gwerth marw drostynt, a dirmyg i ferched.
Lladdwyd sawl arlunydd y mudiad yn y rhyfel yn cynnwys Umberto Boccioni a'r pensaer Antonio Sant’Elia, dau o'r prif enwau. Gyda'r rhyfel ddaeth cyfnod wrth-sefydliadol a mwyaf arloesol Dyfodoliaeth i'w ben.
Yn dilyn y rhyfel cefnogodd llawer o Futuristi syniadaeth Ffasgiaeth a'r unben Benito Mussolini a ddaeth i rym yn y 1920au ac arweiniodd yr Eidal i drychineb yn Ail Ryfel Byd.
Fel y Ffasgwyr roedd llawer o'r Futuristi Eidalaidd yn wladgarwyr ac edmygwyr grym a thrais ac am weld moderneiddio ardaloedd gwledig de'r wlad. Ffurfiodd Marinetti blaid wleidyddol dyfodoliaeth (Partito Politico Futurista) ym 1918 a unodd gyda phlaid Ffasgaidd Mussolini y flwyddyn ganlynol.
Cydnabyddwyd a chefnogwyd Futurismo gan lywodraeth y Ffasgwyr wedi i Mussolini'n dod i rym ym 1922. Adeiladwyd nifer o adeiladu a cherfluniaeth yn steil Futurismo i glodfori'r gyfundrefn newydd.
Ymdrechodd Marinetti i wneud Futurismo unig arddull swyddogol yr Eidal ond gefnogodd Mussolini nifer o wahanol arddulliau celfyddydol, yn arbennig copïau o gelf oes Rhufeinig, er mwyn cadw'r arlunwyr a chyhoedd ar ei ochr.
Er i Futurismo cael ei gysylltu'n gryf gyda Ffasgiaeth, roedd ganddo gefnogwyr ac arlunwyr a oedd yn wrthwynebwyr y ffasgwyr. Ond ym 1924 gadawodd y Sosialwyr, Comiwnyddion ac Anarchwyr gynhadledd y Futuristi ym Milan er ni ddistewid yn llwyr lleisiau gwrth-ffasgaeth o fewn Dyfodolaeth yr Eidal tan y 1930au.[6]. Bu un o brif feddylwyr neo-ffasgwyr cyfoes, Julius Evola yn aelod o'r Futuristi am gyfnod.
Yr Eidal
Pensaeri
Rwsia
Tsiec
|
Ffrainc
Hwngari
|
Portiwgal
Catalonia
Brasil
Yr Ariannin
|
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.