Dyfodol papurau newydd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae dyfodol papurau newydd yn bwnc llosg yn y diwydiant newyddiaduraeth, yn sgil argyfwng economaidd 2008–presennol[1] a dyfodiad cyfryngau digidol a newydd. Mae papurau newydd yn wynebu costau cynyddol a chwymp mewn gwerthiant hysbysebion chylchrediad.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Rhan o ...
Cau
Yn y 2010au roedd y nifer o gyhoeddiadau dan fygythiad methdalu, neu doriadau ariannol wedi cynyddu'n sylweddol. Yn yr Unol Daleithiau mae'r diwydiant wedi colli un o bob pump o'i newyddiadurwyr ers 2001.[2] Mae refeniw wedi gostwng yn sylweddol a chystadleuaeth o'r rhyngrwyd wedi rhoi pwysau ar y cyhoeddwyr print a oedd wedi aros yn eu hunfan.[2][3]