![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d9/%25D0%259E%25D0%25B1%25D1%258B%25D0%25BA%25D0%25BD%25D0%25BE%25D0%25B2%25D0%25B5%25D0%25BD%25D0%25BD%25D0%25B0%25D1%258F_%25D0%25BF%25D0%25B8%25D1%2589%25D1%2583%25D1%2585%25D0%25B0_%2528Certhia_familiaris%2529.jpg/640px-%25D0%259E%25D0%25B1%25D1%258B%25D0%25BA%25D0%25BD%25D0%25BE%25D0%25B2%25D0%25B5%25D0%25BD%25D0%25BD%25D0%25B0%25D1%258F_%25D0%25BF%25D0%25B8%25D1%2589%25D1%2583%25D1%2585%25D0%25B0_%2528Certhia_familiaris%2529.jpg&w=640&q=50)
Dringwr bach
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Dringwr bach (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: dringwyr bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Certhia familiaris; yr enw Saesneg arno yw Common treecreeper. Mae'n perthyn i deulu'r Dringwyr coed (Lladin: Certhiidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Dringwr bach Certhia familiaris | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Certhiidae |
Genws: | Certhia[*] |
Rhywogaeth: | Certhia familiaris |
Enw deuenwol | |
Certhia familiaris | |
![]() | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. familiaris, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gogledd Asia, ac mae naw is-rywogaeth i gyd.
Nid yw'r Dringwr Bach yn aderyn mudol. Mae'n aderyn cyffredin mewn coedwigoedd neu gymysgedd o goed a thir agored. Ei brif fwyd yw pryfed, a'i ddull arferol o fwydo yw hedfan i waelod coeden ac yna ei dringo, cyn hedfan i waelod coeden arall i ail-ddechrau. Mae'n aderyn gweddol fychan, 12.5 cm o hyd.
Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru, er nad yw'n adnabyddus iawn i'r mwyafrif, ac mae'n ymddangos fod ei niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y ganrif ddiwethaf.