![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bc/Town_Pump_and_Corn_Exchange_-_Dorchester.jpg/640px-Town_Pump_and_Corn_Exchange_-_Dorchester.jpg&w=640&q=50)
Dorchester, Dorset
tref yn Dorset / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref farchnad a phlwyf sifil yn sir seremonïol Dorset, De-orllewin Lloegr, yw Dorchester.[1] Gorwedd ar lan Afon Frome. Cysylltir Dorchester â nofelau Thomas Hardy, lle mae'n sail i'r dref ffuglennol Casterbridge (e.e. yn y nofel The Mayor of Casterbridge).
Ffeithiau sydyn Math, Ardal weinyddol ...
![]() | |
![]() | |
Math | tref sirol, plwyf sifil, tref farchnad ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Dorset (awdurdod unedol) |
Poblogaeth | 20,135 ![]() |
Gefeilldref/i | Bayeux ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dorset (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 4.92 km² ![]() |
Uwch y môr | 55 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 50.7108°N 2.4397°W ![]() |
Cod SYG | E04003533 ![]() |
Cod OS | SY690906 ![]() |
Cod post | DT1 ![]() |
![]() | |
Cau
Yn Oes yr Haearn, wrth yr enw Durnovaria, roedd yn un o brif ddinasoedd y Durotriges, llwyth Celtaidd oedd a'u tiriogaethau yn yr hyn sy'n awr yn Dorset, de Wiltshire a de Gwlad yr Haf. Daeth yn ddinas Rufeinig a cheir sawl safle o'r cyfnod yno heddiw.