From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas a chymuned yn département Calvados yn Normandi, gogledd-orllewin Ffrainc yw Bayeux. Mae'n enwog fel cartref Brodwaith Bayeux.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 12,775 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Calvados, arrondissement of Bayeux |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 7.1 km² |
Uwch y môr | 32 ±1 metr, 67 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Guéron, Monceaux-en-Bessin, Saint-Loup-Hors, Saint-Martin-des-Entrées, Saint-Vigor-le-Grand, Vaucelles, Vaux-sur-Aure |
Cyfesurynnau | 49.2786°N 0.7039°W |
Cod post | 14400 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Bayeux |
Saif Bayeux heb fod ymhell o'r arfordir, ychydig i'r gorllewin o ddinas Caen. Llifa Afon Aure trwy Bayeux.
Yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, roedd yn un o'r dinasoedd olaf i bargau ym meddiant y Saeson yn Ffrainc. Bu Mathau Goch yn gapten ar y garsiwn yn y cyfnof yma. Ar 16 Mai, 1450, bu rhaid i Mathau ildio Bayeux. Cafodd ef a'i wŷr, ynghyd â channoedd o ferched a phlant, ganiatâd gan y Ffrancod i ymadael, ond heb eu harfau.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Bayeux yn un o'r rhannau cyntaf o Ffrainc i'w ryddhau o afael yr Almaen, ac ar 16 Mehefin 1944, yna y traddododd Charles de Gaulle ei araith bwysig gyntaf ar dir Ffrainc.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.