![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0a/Frauentag_1914_Heraus_mit_dem_Frauenwahlrecht.jpg/640px-Frauentag_1914_Heraus_mit_dem_Frauenwahlrecht.jpg&w=640&q=50)
Diwrnod Rhyngwladol y Merched
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Merched neu Ddiwrnod Rhyngwladol y Fenyw yn flynyddol ar yr 8fed o Fawrth.[1] Dethlir mewn gwahanol ffyrdd leled y byd gan gynnwys mynegi: parch, gwerthfawrogiad a chariad yn ogystal â dathlu llwyddiannau'r ferch yn y byd gwleidyddol, gwyddonol, ariannol ayb.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0a/Frauentag_1914_Heraus_mit_dem_Frauenwahlrecht.jpg/640px-Frauentag_1914_Heraus_mit_dem_Frauenwahlrecht.jpg)
Digwyddiad sosialaidd ydoedd yn wreiddiol ac fe'i cyfrifwyd yn ddiwrnod gŵyl mewn rhai gwledydd yn Ewrop a Rwsia, ond dros amser collwyd yr elfen sosialaidd a daeth yn gyfuniad o Ddiwrnod y Mamau a Diwrnod Sant Ffolant. Mewn gwledydd eraill, fodd bynnag, canolbwyntiwyd yn fwy ar hawliau dynol a brwydrau ac ymdrechion y ferch dros y blynyddoedd. Dethlir y diwrnod mewn rhai mannau drwy wisgo rhuban porffor.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/38/Wikipedia_Women%27s_Day.png/320px-Wikipedia_Women%27s_Day.png)