Dinas, Sir Benfro
pentref yn Sir Benfro / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Dinas (Saesneg: Dinas Cross). Saif ger yr arfordir ar briffordd yr A487 i'r gogledd ddwyrain o Abergwaun. Mae'n cynnwys Ynys Dinas, sy'n fagwrfa bwysig i forloi ac adar môr, er nad yw'n ynys yng ngwir ystyr y gair. Cofnodir i eglwys Dinas gael ei dinistrio gan y Llychlynwyr, a dinistriwyd yr eglwys newydd, a safai yng Nghwmyreglwys, gan storm fawr 1859. Codwyd eglwys arall yn 1861; mae wedi ei chysegru i Sant Brynach.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.0109°N 4.9098°W |
Cod SYG | W04000424 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
Cau
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[2]
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 798.