tîm pêl-droed o Albania From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Futboll Klub Dinamo Tirana neu. fel arfer, Dinamo Tirana yn glwb pêl-droed yn Tirana, prifddinas Albania. Buont yn un o'r clybiau mwyaf llwyddiannus y wlad, ond maent bellach (2018-19) ac mae'n chwarae yn y Kategoria e Parë, 'Adran Gyntaf' ond ail-reng system pyramid Ffederasiwn Pêl-droed Albania. Mae Dinamo yn chwarae eu gemau cartref yn Stadioni Selman Stërmasi, sy'n dal o 10,000 o wylwyr.
Enw llawn | FK Dinamo Tirana | ||
---|---|---|---|
Llysenwau | Dinamovitët, Blutë (Y Gleision), Nëndetësja Blu (Llongdanfor Las) | ||
Sefydlwyd | Mawrth 3, 1950 | ||
Maes | Stadiwm Selman Stërmasi , Tirana, Albania (sy'n dal: 1,000) | ||
Cadeirydd | Besnik Sulaj | ||
Rheolwr | Igli Allmuça | ||
Cynghrair | Kategoria e Parë, Grŵp A (ail adran y system byramid) | ||
2017–18 | Kategoria e Parë, Grŵp A, 5ed | ||
| |||
Tymor cyfredol |
Mae Dinamo wedi ennill 18 o gynghrair a thri ar ddeg o gwpanau cenedlaethol ac mae'n un o'r timau pwysicaf ym myd pêl-droed Albania. Mae'n cynnal cystadleuaeth ffyrnig gyda'r KF Tirana a'r FK Partizani Tirana. Lliwiau traddodiadol y clwb yn las a gwyn. Gelwir eu ffans pennaf, yr 'Ultras' yn Blue Boys.
Ceir peth amheuaeth dros ddyddiad sefydlu'r clwb. Yn ôl wicipedia yr iaith Albaneg, sefydlwyd Dinamo ar 19 Gorffennaf 1950. Roedd hyn adeg rheolaeth gomiwnyddol ac unbeniaethol y wlad. Sefydlwyd Dinamo, fel sawl clwb 'Dinamo' arall yn yr hen floc Sofietaidd, fel clwb y Weinyddiaeth Gartref ac yn rhan o'r rhwydaith o gymdeithasau chwaraeon Dinamo a sefydlwyd gan sylfaenydd gwasanaeth gudd yr Undeb Sofietaidd yn 1923.
Mae'n un o glybiau mwyaf llwyddiannus y wlad. rhwng 18 Ebrill 1951 - 1 Mehefin 1952 enillont 25 gêm o'r bron.[1] Yn 1971 chwaraeodd y tîm ei gêm gyntaf yn Ewrop gan gystadlu yn hen dwrnament Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.
O 1995 i 1997 fe'i gelwir yn KS Olimpik Tirana er mwyn ei dadgysylltu gydag hanes comiwnyddol y Clwb.
Kategoria Superiore (Uwch Adran)
Supercup Albania
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.