Deurywioldeb
atyniad rhywiol a / neu rhamantus i bobl o'r ddau yr un rhyw a rhyw eraill / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfeiriadedd rhywiol yw deurywioldeb sydd yn cyfeirio at atyniad rhamantus ac/neu rywiol unigolion tuag at unigolion o'r un rywedd neu ryw yn ogystal ag unigolion o'r rhywedd neu ryw arall neu rhywedd anneuaidd. Nid yw'r mwyafrif o ddeurywiolion yn cael eu hatynnu gan ddynion a menywod yn gydradd a gall ffafriaethau newid gydag amser.[1] Ond mae rhai deurywiolion yn aros yn gyson yn eu lefelau o atyniad trwy gydol eu bywydau fel oedolion.
Cyfeiriadedd rhywiol rhan o rywoleg |
---|
Gwahaniaethau |
Anrhywioldeb · Cyfunrywioldeb · Deurywioldeb · Heterorywioldeb · Hollrywioldeb · Paraffilia · Unrhywioldeb |
Labeli |
Dulliau |
Astudiaeth |
Bioleg · Demograffeg · Meddygaeth · Seicoleg |
Anifeiliaid |
Gweler hefyd |
Yng nghanol y 1950au, dyfeisiodd Alfred Kinsey raddfa Kinsey mewn cais i fesur cyfeiriadedd rhywiol yn nhermau profiad rhywiol unigolyn. Mae gan y raddfa 7-pwynt o 0 ("yn hollol heterorywiol") i 6 ("yn hollol gyfunrywiol"). Mae deurywiolion yn cyflenwi mwyafrif o werthau'r raddfa (1–5), sy'n amrywio o "heterorywiol yn bennaf, dim ond yn gyfunrywiol yn achlysurol" (1) i "gyfunrywiol yn bennaf, dim ond yn heterorywiol yn achlysurol" (5). Yng nghanol y raddfa (3) yw "heterorywiol a chyfunrywiol yn gydradd".[1]