From Wikipedia, the free encyclopedia
Yn seicoleg a rhywoleg, mae'r term paraffilia (o'r Roeg: para παρά = gerllaw yn annormal a -ffilia φιλία = cariad) yn disgrifio teulu o ffantasïau, cymhellion gwyrol, neu ymddygiadau dwys, parhaus mae unigolyn yn teimlo sy'n ymwneud â chyffro rhywiol o wrthrychau annynol, poen neu gywilydd a brofiadir gan unigolyn neu ei bartner, neu blant neu unigolion eraill sy'n anaddas fel partneriaid neu ni all cydsynio i gael rhyw. Gall baraffiliâu ymyrryd â'r gallu am weithgarwch rhywiol serchog dwyochrog.[1] Defnyddir y term paraffilia yn ogystal i gyfeirio at ymarferion rhywiol tu allan i'r prif ffrwd heb yn angenrheidiol ymhlygu camweithrediad (gweler yr adran Barnau clinigol). Hefyd, gall ddisgrifio teimladau rhywiol tuag at wrthrychau sydd fel arall yn ddi-rywiol.
Mae llawer o drafod ynglŷn â beth yn union (os unrhywbeth) dylai diffinio paraffilydd, a sut dylai rhain cael eu dosbarthu'n glinigol.
Trafodir wyth prif baraffilia yn unigol gan lenyddiaeth glinigol.[2] Yn ôl Y Cyfarwyddiadur Diagnostig ac Ystadegol o Anhwylderau Meddyliol (DSM), mae'n rhaid i'r gweithgaredd fod yn yr unig fodd o foddhad rhywiol am gyfnod o chwe mis, ac naill ai achosi "trallod neu amhariad, mewn adrannau cymdeithasol, galwedigaethol, neu adrannau pwysig eraill o weithredu, sydd yn arwyddocaol yn glinigol" neu cynnwys trosedd yn erbyn cydsyniad er mwyn i ddiagnosis gael ei wneud ohono fel paraffilia.[3]
Yn flaenorol, rhestrwyd gwrywgydiaeth fel paraffilia yn y DSM-I a DSM-II. Mewn cysondeb â'r newid mewn consensws rhwng seicriatryddion ni chynhwysir mewn argraffiadau diweddarach. Mae anhwylder trallod clinigol o ganlyniad i ataliad gwrywgydiaeth dal ar y rhestr.
Cawn gwybodaeth wyddonol werthfawr ar fecanweithiau atyniad ac awydd rhywiol, megis argraffiad ymddygiadol, o arsylwad ymddygiad paraffilig. Arweinir astudiaeth ofalus yn ogystal at gasgliadau amhenderfynol bod gall brosesau biolegol normal weithiau cael eu hamlygu mewn ffyrdd hynodweddol mewn o leiaf rhai o'r paraffiliâu, a chysylltir yr amlygiadau anarferol hyn yn aml gyda digwyddiadau anghyffredin (ac yn enwedig trawmatig) a gysylltir â phrofiad rhywiol cynnar. Tueddir iddynt cael eu hachosi gan gyflyru clasurol lle mae symbyliad rhywiol wedi'i baru â symbyliadau a sefyllfaoedd nad yw ymateb rhywiol yn nodweddiadol yn deillio o, ac wedyn wedi'i fytholi trwy gyflyru gweithredol oherwydd yr ymateb rhywiol yw gwobr ei hunan (neu atgyfnerthiad cardarnhaol).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.