Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Castell Harlech
From Wikipedia, the free encyclopedia
Castell canoloesol rhestredig gradd 1 yn Harlech, Gwynedd yw Castell Harlech. Fe’i hadeiladwyd gan Edward I yn ystod ei oresgyniad o Gymru rhwng 1282 a 1289 ar gost gymharol gymedrol o £8,190.[1] Mae'n un o’r pedwar castell consentrig, sef Caernarfon, Biwmares a Chonwy a adeiladwyd yn dilyn lladd Llywelyn ap Gruffydd yn 1282. Cryfder cestyll consentrig oedd y ddau fur, sef y mur allanol a'r mur mewnol. Roedd hwn yn gynllun a fabwysiadwyd yn Ewrop wedi iddo gael ei weld yn y Dwyrain Canol adeg y Croesgadau.
Daearyddiaeth | |
---|---|
Gwlad | ![]() |
Chwaraeodd y castell ran bwysig yn hanes Cymru yn y canrifoedd dilynol. Yn 1294 gosododd gwrthryfelwyr Madog ap Llywelyn Gastell Harlech dan warchae. Fodd bynnag, derbyniodd y Saeson gyflenwadau o Iwerddon diolch i fynedfa i'r môr yn y castell, a diddymwyd y gwrthryfel. Yn ystod Gwrthryfel Owain Glyndŵr roedd y castell wedi syrthio i ddwylo Glyndŵr a daeth yn gartref ac yn bencadlys milwrol iddo am bedair blynedd. Yn 1408 gosododd lluoedd Seisnig, o dan awdurdod y gŵr a gafodd ei goroni yn Harri V yn ddiweddarach, warchae ar y castell. Syrthiodd Harlech yn y pen draw ym mis Chwefror 1409. Roedd y castell hefyd yn ased milwrol pwysig yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau a'r Rhyfel Cartref.
Mae'r castell heddiw yng ngofal Cadw. Fe'i cynhwyswyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986, fel rhan o safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.[2]