David Lynch
cyfarwyddwr ffilm, golygydd, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm, actor a chyfansoddwr a aned ym Missoula yn 1946 From Wikipedia, the free encyclopedia
cyfarwyddwr ffilm, golygydd, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm, actor a chyfansoddwr a aned ym Missoula yn 1946 From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae David Keith Lynch (ganwyd 20 Ionawr 1946) yn wneuthurwr ffilmiau, cyfarwyddwr teledu, artist gweledol, cerddor ac actor o bryd i'w gilydd Americanaidd. Enwog am ei ffilmiau swrrealaidd, mae wedi datblygu steil unigryw sinematig ei hun, sydd wedi cael ei alw'n "Lynchian", ac sy'n cael ei nodweddu gan ei delweddaeth breuddwyd a dyluniad sain fanwl. Yn wir, elfennau swreal ac mewn llawer o achosion treisgar i'w ffilmiau wedi ennill enw iddynt eu bod yn "tarfu, troseddu neu syfrdanu" eu cynulleidfaoedd.[1]
David Lynch | |
---|---|
Ganwyd | David Keith Lynch 20 Ionawr 1946 Missoula |
Man preswyl | Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, actor, sgriptiwr, cyfansoddwr, actor llais, animeiddiwr, arlunydd, golygydd ffilm, actor teledu, awdur geiriau, artist, actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, ffotograffydd, llenor, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, cyfansoddwr caneuon, sinematograffydd |
Swydd | Llywydd y Rheithgor yng Ngŵyl Cannes |
Adnabyddus am | Blue Velvet, The Elephant Man, Eraserhead, Mulholland Drive, Twin Peaks: Fire Walk With Me |
Arddull | ffilm ddrama, neo-noir, ffilm arswyd, Ffilm gyffro seicolegol, ffilm gyffro, psychological horror film, sinema swreal, ffilm annibynnol, ffilm arbrofol |
Taldra | 180 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Mudiad | Swrealaeth |
Priod | Mary Sweeney, Peggy Reavey, Mary Fisk, Emily Stofle |
Partner | Isabella Rossellini |
Plant | Jennifer Lynch, Austin Jack Lynch, Lula Boginia Lynch, Riley Sweeney Lynch |
Gwobr/au | Officier de la Légion d'honneur, Goslarer Kaiserring, Chevalier de la Légion d'Honneur, Gwobr Saturn, Y Llew Aur, Palme d'Or, Gwobr Cyfarwyddwr Gorau Cannes, Gwobr Cesar i'r Ffilm Estron Gorau, European Film Award for Best Non-European Film, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Eagle Scout, Sitges Grand Honorary Award |
Gwefan | http://www.davidlynch.com/, http://www.davidlynch.it/ |
llofnod | |
Ganwyd i deulu dosbarth canol yn Missoula, Montana, treuliodd Lynch ei blentyndod yn teithio o amgylch yr Unol Daleithiau, cyn mynd ymlaen i astudio paentio yn Academi'r Celfyddydau Cain Pennsylvania yn Philadelphia, lle newidiodd i gynhyrchu ffilmiau byr. Penderfynodd roi ei hun yn llawnach i'r cyfrwng yma, a symudodd i Los Angeles, lle chynhyrchodd ei lun gynnig cyntaf, y ffilm arswydus swrrealaidd Eraserhead (1977). Ar ôl Eraserhead, Cafodd Lynch ei gyflogi i gyfarwyddo The Elephant Man (1980), o le cafodd llwyddiant prif ffrwd. Yna, yn cael eu cyflogi gan y De Laurentiis Entertainment Group, aeth ymlaen i wneud dwy ffilm: yr epig ffuglen wyddonol Dune (1984), a oedd yn profi i fod yn fethiant beirniadol a masnachol, ac wedyn ffilm trosedd neo-noir, Blue Velvet (1986), a oedd yn hynod o feirniadol o fri.
Symudodd ymlaen i greu ei gyfres deledu ei hun gyda Mark Frost, yr hynod o boblogaidd Twin Peaks (1990-92), creodd o hefyd y prequel sinematig, Fire Walk With Me (1992); ffilm ffordd, Wild at Heart (1990), ffilm deuluol The Straight Story (1999), yn yr un cyfnod. Gan troi pellach tuag at wneud ffilmiau swrrealaidd, efo tri o'i ffilmiau canlynol yn gweithio ar "rhesymeg freuddwyd" strwythurau naratif aflinol, Lost Highway (1997), Mulholland Drive (2001) a'r Inland Empire (2006). Yn y cyfamser, mae Lynch yn ei flaen i gynnwys y rhyngrwyd fel cyfrwng, gan gynhyrchu nifer o sioeau we, fel yr animeiddiad Dumbland (2002) a'r comedi sefyllfa swrrealaidd Rabbits (2002).
Yn ystod ei yrfa, mae Lynch wedi derbyn tri enwebiad Gwobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau,[2][3][4] ac enwebiad am y sgript ffilm orau. Mae Lynch wedi ennill y Wobr César Ffrainc am Ffilm Orau Dramor, yn ogystal â'r Palme d'Or yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes[5] a gwobr Golden Lion am lwyddiant oes yng Ngŵyl Ffilm Fenis.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.