Planhigyn blodeuol ydy Moronen y maes (enw benywaidd) sy'n perthyn i'r teulu Apiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Daucus carota is-rh. carota a'r enw Saesneg yw Wild carrot. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Llys meddyglyn, Meddyglyn, Moron gwylltion, Moron y meysydd, Moronen goch, a Nyth aderyn.
Daucus carota is-rh. carota | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Apiales |
Teulu: | Apiaceae |
Genws: | Daucus |
Enw deuenwol | |
Daucus carota is-rh. carota Carl Linnaeus | |
Ers sawl canrif bellach, mae garddwyr wedi bridio'r rhywogaeth ar gyfer y bwrdd bwyd, a gelwir y math hwnnw yn foronen, sydd, yn dechnegol yn gyltifar o'r is-rhywogaeth yma. I'r llygad, edrychant yn bur wahanol erbyn heddiw, gyda moronen y maes yn edrych yn llai ac yn fwy eiddil. Yn y gwyllt, gall dyfu i rhwng 30 a 60 cm (1-2 troedfedd), ac mae'r bonyn yn soed, stiff a blewog. Mae'r dail gyferbyn a'i gilydd ac mae gan y blodyn 5 petal. Gellir ei fwyta pan mae'n ifanc.
Gweler hefyd
- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.