Planhigyn blodeuol

From Wikipedia, the free encyclopedia

Planhigyn blodeuol
Remove ads

Grŵp mawr o blanhigion hadog yw'r planhigion blodeuol (hefyd cibhadogion neu angiosbermau), sy'n dwyn blodau a ffrwythau. Maent yn cynnwys tua 254,000 o rywogaethau ledled y byd, mwy nag unrhyw grŵp arall o blanhigion tir.[1] Maent yn dwyn blodau sy'n cael eu peillio gan bryfed (pryfbeilliedig) neu'r gwynt (gwyntbeilliedig) gan amlaf. Mae hadau planhigion blodeuol yn eu ffrwythau, a'u hofwlau mewn carpelau. Ymddangosodd y planhigion blodeuol cyntaf tua 140 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Cretasaidd.[2]

Ffeithiau sydyn Planhigion blodeuol, Dosbarthiad gwyddonol ...

Rhennir y planhigion blodeuol yn ddau grŵp yn draddodiadol: y deugotyledonau a'r monocotyledonau. Mae astudiaethau diweddar yn awgrymu hollti'r deugotyledonau yn sawl grŵp megis yr ewdicotau a'r magnoliidau.[2]

Thumb
Cylchred bywyd planhigion blodeuol
Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads