Daliant sylffad bariwm
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae daliant sylffad bariwm, sy'n cael ei gyfeirio ato'n aml fel dim ond bariwm, yn asiant gwrthgyferbyniad a ddefnyddir yn ystod pelydrau-x. Yn benodol, fe'i defnyddir i wella delweddu'r llwybr gastroberfeddol (oesoffagws, stumog, coluddion) ar belydr-x plaen neu tomograffeg gyfrifiadurol[1]. Mae'n cael ei weini trwy'r enau neu trwy'r rectwm.
Mae sgil effeithiau yn cynnwys rhwymedd, dolur rhydd, llid y pendics ac, os caiff ei anadlu, llid yr ysgyfaint. Nid yw'n cael ei argymell ar gyfer pobl sydd â thrydylliadau perfeddol neu rwystr yn y coluddyn. Mae adweithiau alergaidd yn brin. Mae defnyddio bariwm yn ystod beichiogrwydd yn ddiogel i'r babi; fodd bynnag, gall pelydrau-x arwain at niwed. Gwneir daliant sylffad bariwm fel arfer trwy gymysgu powdr bariwm sylffad â dŵr.
Mae sylffad bariwm wedi bod yn hysbys ers yr Oesoedd Canol. Yng ngwledydd y gorllewin roedd wedi dod i ddefnydd meddygol cyffredin erbyn 1910. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae rhai fersiynau yn cynnwys plas ffrwythau i geisio gwneud ei blas yn well.