cytundeb heddwch rhwng Gweriniaeth Twrci a'r Pwerau Cysylltiedig ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddisodli Cytuniad Sèvres From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Cytundeb Lausanne yn gytundeb heddwch a lofnodwyd yn Lausanne, Y Swistir 24 Gorffennaf 1923 rhwng Twrci a Pwerau'r Entente (Ffrainc, Y Deyrnas Unedig, Yr Eidal, Siapan, Gwlad Groeg a Rwmania) a fu'n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a Rhyfel Annibyniaeth Twrci. Rhoddodd y Cytundeb, a elwir hefyd yn Gonfensiwn Lausanne, ddiwedd ar y gwrthdaro Groeg-Twrceg gwaedlyd gan gadarnhau y ffiniau rhwng Groeg, Bwlgaria a Thwrci, yn ogystal â phenderfynu ar ddiwedd pob hawliad Twrcaidd ar Cyprus, Irac a Syria, a ffiniau dwyreiniol Twrci ynghyd â Chytundeb Ankara.[1]
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb heddwch |
---|---|
Dyddiad | 24 Gorffennaf 1923 |
Iaith | Ffrangeg |
Lleoliad | Lausanne |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arwyddwyd Cytundeb Lausanne wedi cyfnod o rhyfel gwaedlyd a chymhleth gyda lluoedd gweriniaethol Twrcaidd dan arweiniad Mustafa Kemal (a enwyd yn hwyrach yn Kemal Atatürk) yn erbyn yr hen lywodraeth imperialaidd Ymerodraeth yr Otomaniaid. Credai Kemal a'i gefnogwyr bod y Cytundeb a arwyddwyd gan yr Ymerodraeth yn sarhad ar Dwrci a diorseddwyd y Swltan ac alltudiwyd ei lywodraeth. Cafwyd llywodraeth weriniaethol a arweiniodd Ryfel Annibyniaeth Twrci gan adfeddiannu tiroedd yn Anatolia a gipiwyd gan y Groegiaid ac ail-sefydlu llywodraeth Dwrcaidd ar y tir mawr, adfeddiannwyd a sicrhawyd hefyd reolaeth Twrcaidd dros rhan ddwyreiniol Anatolia oedd wedi ei addo i Armenia ac i'r Cwrdiaid fel rhan o Gytundeb Sèvres.
Wedi i luoedd Mustafa Kemal guro lluoedd arfog y Gorllewin a diarddel poblogaeth Groegaidd o Anatolia gwrthodwyd cytundeb flaenorol Cytundeb Sèvres. Ar 20 Hydref 1922, gyda Chytundeb Sèvres bellach yn hanes, ail-agorwyd y trafodaethau gyda'r Pwerau Entente (y Cynghreiriaid buddugol yn y Rhyfel Mawr). Torwyd ar y trafodaethau gan y cynrychiolwyr Twrcaidd o dan arweiniad İsmet İnönü ar 4 Chwefror 1923. Ail-gychwynnwyd ar y trafodaethau ar 23 Ebrill 1923, ac, er gwaethaf protestiadau gan lywodraeth Atatürk, cadarnhawyd y cytundeb yn derfynol ar y 24 Gorffennaf 1923.[1]
Derbyniodd Gweriniaeth Twrci hefyd golli endidau tiriogaethol. Yn fras, cytunodd Prydain a Ffrainc i Dwrci gadw rheolaeth dros Anatolia yn gyfnewid am golli rheolaeth dros weddill yr ymerodraeth yn Arabia, Affrica a'r tiroedd cyfagos (fel Irac) lle roedd olew. Offrymwyd Armenia a'r Cwrdiaid er mwyn sefydlogrwydd, olew a lleddfwyd pryderon y Cynghreiriaid o hil-laddiad pellach o'r Armeniaid yn sgil polisïau seciwlar Atatürk.[2]
Cafwyd sawl tro pedol ar yr hyn a gytunwyd gan y llywodraeth flaenorol yng Nghytundeb Sèvres. Yn ogystal â gwyrdroi a chyfnerthu hawliau tiriogaethol Twrci yn Anatolia, gwyrdrowyd y setliad ariannol a chyfreithiol yn yr hen gytundeb.
Yn wahanol i Gytundeb Sevres, collodd y cymunedau Ewropeaidd oedd wedi byw yn yr yr hen Ymerodraeth Otomanaidd eu holl breintiau. O dan Erthygl 28 o'r Cytundeb diddymwyd cyfundrefn y capitulations [4] yn llwyr. Roedd y 'capitulations' yn arfer a fodolai yn yr Ymerodraeth Otomanaidd ers canrifoedd lle rhoddwyd hawliau i dramorwyr (Ffrengig gan fwyaf) i weithredu a masnach yn yr Ymerodraeth heb erlid lleol, trethi lleol, consgripsiwn lleol ac archwiliad cartref. Rhoddwyd rhain er mwyn ceisio denu buddsoddiad ond cawsant eu cam-ddefnyddio gan dramorwyr a llywodraethau tramor yn nyddiau olaf yr Ymerodraeth.
Defnyddiodd y Cytundeb ymlyniad crefyddol fel arwydd o genedligrwydd ac, felly, adleoli. Rhoddodd hawliau i leiafrifoedd di-Fwslim yn Nhwrci a lleiafrifoedd Mwslim yn Groeg o dan Erthygl 37-45. O fewn Twrci nodwyd hawliau lleiafrifol i Iddewon, Groegiaid ac Armeniaid a oedd i gael yr un hawliau sifil yn Nhwrci ag oedd i Dwrciaid Mwslim. Yn y blynyddoedd i ddilyn beirniadwyd Twrci gan yr Armeniaid a'r Groegiaid am beidio cadw at ysbryd a hawliau'r Cytundeb.
Mae carfan sylweddol o Armeniaid yn dal i ddadlau dilysrwydd Cytundeb Lausanne.
Cafwyd peth newidiadau i Gytundeb Lausanne ymhen rhai degawdau.
Mae Cytundeb Lausanne yn dal yn bwnc trafod i Armeniaid,[3] Cwrdiaid a hyd yn oed Twrciaid. Yn 2018 honnodd Prif Weindiog Twrci, Erdogan fod y Cytundeb wedi bod yn "annheg i Dwrci".[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.