Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yn Thrace, yng ngorllewin Twrci yw Edirne. Saif yn agos i'r ffin rhwng Twrci a Gwlad Groeg a Bwlgaria ar gyfandir Ewrop. Edirne yw prifddinas Talaith Edirne. Roedd y boblogaeth yn 2002 yn 128,400.
Hen enw'r ddinas oedd Adrianople neu Hadrianopolis, ar ôl yr ymerawdwr Rhufeinig Hadrian; defnyddir yr enw o hyd gan y Groegiaid. Saif y ddinas mewn lleoliad strategol pwysig, ar ffordd Rufeinig y Via Egnatia, a bu nifer o frwydrau yma. Ym Mrwydr Adrianople yn 313, gorchfygwyd Maximinus Daia gan Licinius; yna ym mrwydr 324, gorchfygwyd Licinius gan Cystennin Fawr. Yr enwocaf o'r brwydrau yma oedd Brwydr Adrianople (378), pan orchfygwyd yr ymerawdwr Valens gan y Gothiaid.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.