Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2022
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2022 neu Gynhadledd Partion yr UNFCCC, y cyfeirir ati amlaf fel COP27,[1] oedd 27fed cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, a gynhaliwyd rhwng 6 Tachwedd a 20 Tachwedd 2022[2] yn Sharm El Sheikh, yr Aifft. Tarddiad y talfyriad COP yw Conference of the Parties.
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad mewn cyfres, cynadleddau Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig |
---|---|
Dechreuwyd | 6 Tachwedd 2022 |
Daeth i ben | 20 Tachwedd 2022 |
Cyfres | cynadleddau Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig |
Rhagflaenwyd gan | cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2021 |
Olynwyd gan | Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2023 |
Lleoliad | Sharm el-Sheikh |
Prif bwnc | gweithredu ar yr amgylchedd |
Gwladwriaeth | Yr Aifft |
Gwefan | https://cop27.eg/#/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe’i cynhaliwyd o dan arlywyddiaeth Gweinidog Materion Tramor yr Aifft, Sameh Shoukry, gyda mwy na 92 o benaethiaid gwladwriaethau yn bresennol. Amcangyfrifir bod 35,000 o gynrychiolwyr o 190 o wledydd yno'n bresennol. Hon oedd yr uwchgynhadledd hinsawdd gyntaf a gynhaliwyd yn Affrica ers 2016.[3]
Mae'r gynhadledd wedi'i chynnal yn flynyddol ers cytundeb hinsawdd cyntaf y Cenhedloedd Unedig ym 1992. Fe'i defnyddir gan lywodraethau i gytuno ar bolisïau i gyfyngu ar godiadau tymheredd byd-eang ac addasu i effeithiau sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd.[4] Arweiniodd y gynhadledd hon at greu'r gronfa 'colled a difrod' gyntaf.[5]