![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/54/COP21_participants_-_30_Nov_2015_%252823430273715%2529.jpg/640px-COP21_participants_-_30_Nov_2015_%252823430273715%2529.jpg&w=640&q=50)
Cynadleddau Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig
math o gynhadledd ar yr amgylchedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Cynadleddau Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn gasgliad o gynadleddau blynyddol a gynhelir o fewn fframwaith Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC). Maent yn gwasanaethu fel cyfarfodydd ffurfiol o bartion UNFCCC (Cynhadledd y Partïon, COP) i asesu cynnydd wrth ddelio â newid hinsawdd, ac i drafod Cytundeb Kyoto i sefydlu rhwymedigaethau cyfreithiol i wledydd datblygedig i leihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr.[1]
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | cynhadledd ![]() |
---|---|
Math | Cynhadledd y partïon, cynhadledd, amrywioldeb yr hinsawdd ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 2001 ![]() |
Dechreuwyd | 3000 ![]() |
![]() |
Gan ddechrau yn 2005 mae'r cynadleddau hefyd wedi gwasanaethu fel "Cynhadledd y Partïon sy'n Gwasanaethu fel Cyfarfod y Partïon i Brotocol Kyoto" (CMP); hefyd gall partïon i'r confensiwn nad ydynt yn bartïon i'r protocol gymryd rhan mewn cyfarfodydd fel sylwedyddion. Rhwng 2011 a 2015 defnyddiwyd y cyfarfodydd i drafod Cytundeb Paris fel rhan o blatfform Durban, a greodd lwybr cyffredinol tuag at weithredu dros yr hinsawdd.[2] Rhaid cytuno ar unrhyw destun terfynol COP drwy gonsensws.[3]
Cynhaliwyd Cynhadledd Newid Hinsawdd gyntaf y Cenhedloedd Unedig ym 1995 yn Berlin.[4][5]