maesdref o Abertawe From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Cwmbwrla yn un o faesdrefi dinas Abertawe, Cymru. Fe'i lleolir tua milltir (1.5 km) i'r gogledd o ganol y ddinas. Tarddia'r enw o'r gair 'Burlais' sef enw'r nant sy'n rhedeg trwy'r pentref.[1]
Math | ardal breswyl, maestref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 7,423 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 150.35 ha |
Cyfesurynnau | 51.6369°N 3.9578°W |
Cod SYG | W04000962 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mike Hedges (Llafur) |
AS/au y DU | Carolyn Harris (Llafur) |
Mae'n ardal boblog gydag ond ychydig o siopau bychain. Mae cyfleusterau lleol yn cynnwys Ysgol Gynradd Cwmbwrla, canolfan ddydd gwasanaethau iechyd meddyliol a Pharc Cwmbwrla sydd a nifer o gaeau chwarae a dau faes pel-droed. Mae'r tîm pêl-droed lleol wedi'i leoli yng Nghlwb Cymdeithasol Cwmfelin ar Stryd Courtney.
Ar ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au, aeth Cwmbwrla trwy nifer o newidiadau. Tan bod y penderfyniad o adeiladu cylchdro yno wedi cael ei wneud, roedd y pentref yn nodweddiadol o nifer o bentrefi Cymreig eraill. Roedd yno res o siopau ar y naill ochr, gyda'r Tivoli (sef y sinema) a oedd yn gwasanaethu fel canolfan gymunedol hefyd ar yr ochor arall. Roedd yno flwch heddlu du a gwyn yno hefyd, arwerthiant ceir Cyril Price a thafarn y Gate House a gafodd ei enw ar ôl y tollborth a oedd yno yn ystod y 19g.
Roedd pedwar Capel Anghydffurfiol yno hefyd sef Capel-y-Gat a'r Babell (sydd bellach wedi eu dymchwel), y Gorse Mission sydd ar waelod Heol y Gors a Libanus. Mae'r Missionn yn parhau i fod yno ond gaeth Capel Libanus ei chwalu ar ôl iddo gael ei ddifrodi gan dân ym 2012.[2]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mike Hedges (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Carolyn Harris (Llafur).[3][4]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Cwmbwrla (pob oed) (7,972) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cwmbwrla) (517) | 6.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cwmbwrla) (7107) | 89.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Cwmbwrla) (1,272) | 36.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.