pentref a chymuned yn Sir Abertawe From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned tua 5 milltir i'r de-orllewin o Abertawe ar benrhyn Gŵyr yw Llandeilo Ferwallt ( ynganiad ) (Saesneg: Bishopston). Mae'r Mwmbwls yn gorwedd dwy filltir i'r dwyrain. Llandeilo yw un o'r pentrefi mwyaf ar benrhyn Gŵyr. Mae ganddo ei glwb rygbi ei hun, South Gower RFC, a'i ysgol gyfun, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 3,229 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 596.65 ha |
Cyfesurynnau | 51.575°N 4.051°W |
Cod SYG | W04000957 |
Cod OS | SS5888 |
Cod post | SA3 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rebecca Evans (Llafur) |
AS/au y DU | Tonia Antoniazzi (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Tonia Antoniazzi (Llafur).[1][2]
I ddechrau, cyfuniad o 'Llan' a Merwall oedd yr enw, ac fe dyfodd 't' yn raddol ar ddiwedd yr enw personol. Pan fu anghytuno rhwng Esgobaeth Llandaf ac Esgobaeth Tyddewi ynglŷn â'r ffiniau rhyngddynt rhoddwyd yr enw Teilo i mewn i'r enw ar ôl ailgysegru'r eglwys leol i Sant Teilo, gan ei fod yn nawddsant Esgobaeth Llandaf, er mwyn tanlinellu ei bod yn perthyn i'r esgobaeth honno.
Ceir sawl traeth lleol fel Brandy Cove, Bae Caswel a Pwll Du (gweler y llun).
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llandeilo Ferwallt (pob oed) (3,251) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandeilo Ferwallt) (268) | 8.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandeilo Ferwallt) (2310) | 71.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llandeilo Ferwallt) (626) | 42.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.