Croes
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae croes yn siap geometrig sy'n cynnwys dwy linell neu far unionsgwar i'w gilydd, gan rannu un neu ddau o'r llinellau mewn hanner. Gan amlaf, rhed y llinellau'n fertigol neu'n llorweddol; os ydynt yn rhedeg ar letraws, defnyddir y term technegol sawtyr i'w disgrifio.
Mae'r groes yn un o symbolau mwyaf hynafol y ddynoliaeth, ac fe'i defnyddir gan nifer o grefyddau, megis Cristnogaeth. Caiff ei defnyddio'n aml fel cynrychioliad o raniadau'r byd i mewn i bedair elfen (neu'r pwyntiau prifol), neu weithiau fel undod o'r cysyniadau o ddwyfoldeb, y llinell fertigol, a'r byd, y llinell llorweddol.