fforiwr Eidalaidd From Wikipedia, the free encyclopedia
Fforiwr a mordwywr o Genoa yn yr Eidal oedd Christopher Columbus (Eidaleg: Cristoforo Colombo; Lladin: Christophorus Columbus) (1451 – 20 Mai 1506). Dywed rhai mai ef oedd y cyntaf i ddarganfod America, ond mae hynny'n bwnc llosg. Hwyliodd dros Fôr Iwerydd er mwyn darganfod ffordd fer i Asia. Meddyliodd mai dim ond dŵr oedd rhwng ef a phen ei daith, felly pan laniodd ar ynysoedd y Caribî, meddyliodd ei fod wedi cyrraedd Asia. Credodd hyn hyd ddiwedd ei oes.
Christopher Columbus | |
---|---|
Ganwyd | Christophorus Columbus 1451 Genova |
Bu farw | 20 Mai 1506 Valladolid |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Genova |
Galwedigaeth | fforiwr, morwr, morwr, teithiwr, dyfeisiwr |
Swydd | profanador, Viceroy of the Indies |
Prif ddylanwad | Pierre d'Ailly, Paolo dal Pozzo Toscanelli, Ptolemi, Marco Polo, John Mandeville |
Tad | Domenico Colombo |
Mam | Susanna Fontanarossa |
Priod | Filipa Moniz Perestrelo |
Partner | Beatriz Enríquez de Arana |
Plant | Ferdinand Columbus, Diego Columbus |
Llinach | Columbus Family |
llofnod | |
Cafodd Christopher Columbus ei eni yn 1451 yn Genoa yn yr Eidal i rieni o Sbaen. Priododd yn y flwyddyn 1479. Bu farw ei wraig Dona Felipa ar ôl genedigaeth ei mab.
Roedd gan Christopher Columbus dri brawd ac un chwaer. Gwehydd oedd ei dad. Pan oedd Columbus yn hŷn bu'n helpu ei dad gyda'i waith. Nid chafodd lawer o addysg. Pan oedd Columbus yn ddyn y dysgodd sut i ddarllen ac ysgrifennu.
Credai Columbus bod y byd yn grwn ac nad oedd yn fflat. Ceisiodd brofi ei fod yn wir am 7 mlynedd. Roedd Columbus eisiau mynd ar y môr erioed. Credai ei fod am ddarganfod India wrth hwylio i'r Gorllewin.
Cwblhaodd bedair mordaith ar draws Môr yr Iwerydd a fu’n drobwyntiau pwysig o ran agor y ffordd i deithiau fforio eraill o Ewrop a gwladychu'r Americas. Roeddent yn allweddol o ran pontio'r Hen Fyd a’r Byd Newydd. Noddwyd ei deithiau gan frenhinoedd Catholig Sbaen, a’r teithiau hyn oedd cysylltiad cyntaf yr Ewropeaid â’r Caribȋ a chanolbarth a de America, sef y Byd Newydd.
Roedd ganddo ddiddordeb mewn pynciau fel daearyddiaeth, seryddiaeth a hanes, ac roedd yn ymchwilydd dyfal yn y meysydd hyn. Lluniodd gynllun a oedd yn amlinellu llwybr morwrol tua'r gorllewin er mwyn chwilio am lwybr draw i India’r Dwyrain, gan obeithio y byddai’n medru elwa ar y fasnach sbeisys lewyrchus. Wedi lobïo dyfal llwyddodd yn y diwedd i ennill cefnogaeth ariannol oddi wrth frenin a brenhines Sbaen, sef Fernando ac Isabel, a oedd yn fodlon cyllido siwrnai tua'r gorllewin yn enw coron Castilla ar gyfer ei fordaith gyntaf. Yn ystod y fordaith honno rhwng 1492 a 93 ymwelodd ag Ynysoedd Canerïa, Y Bahamas, Ciwba a Hispaniola, gan sefydlu gwladfa ar yr ynys sy’n cael ei hadnabod heddiw fel Haiti: y sefydliad Ewropeaidd cyntaf yn yr Americas ers sefydlu’r gwladfeydd Norseg tua 500 mlynedd ynghynt.
Trefnodd deithiau fforio eraill yn 1493 i Trinidad ac i arfordir gogleddol De America yn 1498 a bu’n fforio draw ar arfordir dwyreiniol Canolbarth America yn 1502. Rhoddodd enwau i nifer o’r ynysoedd a welodd ac i nodweddion daearyddol yr ynysoedd, a’r enw indios (‘Indians’) i’r bobl frodorol y gwnaeth eu cyfarfod. Bu ei bartneriaeth gyda Ferdinand ac Isabella dan straen ar brydiau - er enghraifft, pan benododd y Goron Sbaenaidd weinyddwr a llywodraethwyr yn yr Americas. Arweiniodd hyn at arestio Columbus a bu’n rhaid iddo adael Hispaniola yn 1500. Bu blynyddoedd o gweryla cyfreithiol rhyngddo ef a choron Castilla ynghylch cyfran yr elw y byddai ei ddisgynyddion yn ei derbyn gan Sbaen.
Bu farw Christopher Columbus yn y flwyddyn 1506, ar yr 20fed o Fai, yn Valladolid yn Sbaen.[1]
Ganwyd Christopher Columbus yn Genoa yn yr Eidal i rieni o Sbaen yn 1451. Enw ei dad oedd Domenico Colombo, a oedd yn wehydd gwlân a fu’n gweithio yn Genoa a Savona. Enw ei fam oedd Susanna Fontanarossa ac roedd ganddo dri brawd o’r enw Bartolomeo, Giovanni Pellegrino a Giacomo a chwaer o’r enw Bianchinetta. Bu ei frawd, Bartolomeo, yn gweithio am gyfnod mewn gweithdy mapiau yn Lisbon, Portiwgal. Credir bod Christopher Columbus yn siarad tafodiaith Genoaidd yr iaith Ligwreg. Yn 1470 symudodd teulu Columbus i Savona lle bu Domenico yn rheoli tafarn.
Yn 1473 dechreuodd ei brentisiaeth fel asiant busnes i deuluoedd pwysig Genoa, sef y Spinola, Centurione a Di Negro. Yn ddiweddarach yn y 1470au hwyliodd I Wlad yr Iâ ac Iwerddon gyda’r llynges fasnachol[1] ac yn ddiweddarach, honnwyd ei fod wedi teithio i Chios, ynys Aegeaidd, a reolwyd gan Genoa bryd hynny.
Erbyn diwedd y 15g roedd rhai gwledydd yn Ewrop (Sbaen, Portiwgal, yr Iseldiroedd, Ffrainc a Phrydain oedd y rhai mwyaf blaengar) yn cynnal teithiau fforio draw i ochr arall y byd er mwyn canfod tiroedd a chyfoeth newydd.
Ym maes fforio roedd Sbaen a Phortiwgal ymhlith dau o’r gwledydd Ewropeaidd mwyaf pwerus yn y 15g. Roedd eu bryd ar gyrraedd Tsieina, Siapan ac India er mwyn cael meddiannu a gwerthu sbeisys, sidanau a gemwaith. Roedd sbeisys a pherlysiau yn ddeunyddiau newydd i Ewrop ac yn cael eu gweld fel eitemau pwysig ar gyfer meddygaeth ac wrth baratoi a choginio bwyd. ‘Yr Hen Fyd’ oedd Ewrop, Affrica ac Asia, tra bod Gogledd a De America yn cael eu hadnabod fel ‘Y Byd Newydd’, gan nad oedd Ewropeaid wedi ymsefydlu yno tan y 16g.[2]
Roedd y Portiwgeaid yn anelu at gyrraedd y Dwyrain Pell drwy hwylio rownd Affrica, ac erbyn 1498 roeddent wedi llwyddo i fynd o gwmpas Penrhyn Gobaith Da a chyrraedd India. Y Sbaenwyr oedd y cyntaf i ymsefydlu mewn niferoedd mawr yn ‘Y Byd Newydd’ yn ystod y 1520au. Cafodd trysorau, gemwaith ac arteffactau aur trigolion a llwythau lleol yr Asteciaid ym Mecsico, yr Incas yn Periw a phobl Maya ardaloedd deheuol Mecsico eu hysbeilio’n greulon gan filwyr Sbaenaidd fel Cortes a Pizarro. Yn ystod y 1530au perchnogodd Portiwgal Brasil, gan allforio cotwm, siwgr a chaethweision i Ewrop.
Cafodd nwyddau fel tybaco, siocled a thatws eu cludo o’r Byd Newydd draw i Ewrop, yn ogystal â chotwm a metelau gwerthfawr eraill. Roedd perchnogi’r tiroedd newydd hyn yn y Byd Newydd yn hollbwysig i statws, pŵer a chyfoeth y gwledydd Ewropeaidd hyn fel eu bod yn medru manteisio ar eu hadnoddau a’u cyfoeth. Roedd perchnogi tir yn cael ei weld fel rhan bwysig o adeiladu ymerodraeth wrth gystadlu â gwledydd eraill ar y llwyfan byd-eang. Gwelwyd y teithiau fforio hefyd fel cyfrwng i ledaenu Cristnogaeth a chryfhau presenoldeb tiroedd Cristnogol yn erbyn twf yr Ymerodraeth Otomanaidd Fwslimaidd yn y Dwyrain.[1]
Rhwng 1492 a 1503 cwblhaodd Columbus bedair mordaith rhwng Sbaen a’r Americas, a noddwyd pob un ohonynt gan goron Castilla. Ar ei fordaith gyntaf, darganfu'r Americas, ac roedd ei fordeithiau yn ddechrau ar bennod bwysig yn hanes fforio a gwladychu Ewropeaidd yng nghyfandir America.
Mynnai Columbus, er gwaethaf tystiolaeth gynyddol i’r gwrthwyneb, bod y tiroedd roedd wedi ymweld â nhw yn ystod y mordeithiau yn rhan o gyfandir Asia, fel y disgrifiwyd gan Marco Polo a theithwyr Ewropeaidd eraill. Mae hyn yn esbonio'n rhannol, o bosibl, pam yr enwyd cyfandir America ar ôl y fforiwr o Fflorens, sef Amerigo Vespucci, ac nid ar ôl Columbus.[3][4]
Bu Columbus yn ceisio nawdd o sawl cyfeiriad, ond ofer fu ei ymdrechion cynharaf. Tua 1484, cyflwynodd ei gynlluniau i’r Brenin John II o Bortiwgal.[5] Holodd a fyddai’r Brenin yn medru darparu tair llong gadarn iddo a chaniatáu blwyddyn iddo hwylio allan i Fôr yr Iwerydd er mwyn chwilio am lwybr gorllewinol i’r Dwyrain, ac yna dychwelyd. Holodd hefyd a fyddai modd ei benodi’n ‘Lyngesydd Mawr y Môr’, ei benodi’n llywodraethwr ar y tiroedd y byddai’n eu darganfod, ac yn cael un rhan o ddeg o holl incwm y tiroedd hynny. Gwrthododd arbenigwyr y Brenin gynlluniau Columbus ar y sail bod amcangyfrif Columbus o’r milltiroedd teithio, sef tua 2,400 milltir (3,860 cilometr) yn llawer rhy isel.[6] Apeliodd Columbus i Frenin Portiwgal yn ddiweddarach yn 1488, ond unwaith yn rhagor bu’n aflwyddiannus.[5]
Trodd Columbus ei olygon tuag at Loegr am nodded, gan anfon ei frawd, Bartolomeo, draw i weld Harri VII yn 1491. Roedd Harri yn adnabyddus am fod yn ofalus iawn gyda’i arian a gwrthododd gais Columbus.
Yn y diwedd, yn Ionawr 1492, cytunodd y Brenin Ferdinand a’r Frenhines Isabella o Sbaen i noddi ei daith fforio, gan ddod yn unigolion pwysig yn ei fywyd fforio. Er eu bod hwythau hefyd wedi gwrthod ei gynlluniau’n gynharach oherwydd amheuon ei fod wedi amcangyfrif yn rhy isel y pellter draw i Asia, daeth tro ar fyd. Roedd awydd cryf yn Sbaen i herio awdurdod Portiwgal, i hyrwyddo awdurdod Coron Castilla ac Aragon ac i berchnogi tiroedd a chyfoeth Newydd.[1]
Yn Ebrill 1492, yn nogfen ‘Capitulations of Santa Fe’, cytunodd Ferdinand ac Isabella, petai amcanion Columbus yn llwyddiannus, y byddai’n cael ei anrhydeddu gyda'r teitl ‘Llyngesydd y Môr’ ac yn cael ei benodi’n Rhaglaw a Llywodraethwr yr holl diroedd newydd a fyddai’n eu meddiannu yn enw Sbaen. Rhoddwyd yr hawl iddo hefyd benodi tri unigolyn, gyda'r brenin a’r frenhines yn dewis un ohonynt, ar gyfer unrhyw swydd yn y tiroedd hynny. Cai hefyd un rhan o ddeg o'r holl incwm a fyddai’n deillio o’r tiroedd newydd am byth. Yn ogystal, byddai’n cael yr hawl i brynu un rhan o wyth o unrhyw fenter fasnachol yn y tiroedd newydd a derbyn un rhan o wyth o’r elw.[6]
Gyda'r nos ar 3 Awst 1492, gadawodd Columbus Palos de la Frontera gyda thair llong, sef y Santa Maria, y Nina a’r Pinta.[7][8] Hwyliodd Columbus i Ynysoedd y Canerïa yn y lle cyntaf, a oedd yn eiddo i Castilla, gan godi adnoddau ychwanegol a chynnal gwaith atgyweirio ar y llongau yn Gran Canaria. Gadawodd San Sebastian de La Gomera ar 6 Medi am fordaith bum wythnos ar draws y môr.
Am 2 o’r gloch y bore ar 12 Hydref, gwelwyd tir, ac enwodd Columbus yr ynys (sy’n cael ei hadnabod yn awr fel y Bahamas) yn San Salvador (sy’n golygu ‘Achubwr Sanctaidd’). Enw’r brodorion, neu’r bobl leol, ar yr ynys oedd Guanahani.[8]
Ymhlith y brodorion roedd pobl y Lucayan, Taino ac Arawak. Roeddent yn llwythau heddychlon a chyfeillgar a phenderfynodd Columbus enwi’r trigolion a ddarganfu ar yr ynysoedd hyn yn indios (Sbaeneg am ‘Indiaid’).[9][10]
Yn ystod y fordaith hon hefyd bu Columbus yn fforio arfordir gogledd-ddwyrain Ciwba, gan lanio ar yr ynys ar 28 Hydref 1492. Ar 5 Rhagfyr glaniodd Columbus ar arfordir gogleddol ynys a enwyd ganddo'n Hispaniola. Enw’r trigolion lleol ar yr ynys hon oedd Ayti, neu Haiti fel mae’n cael ei hadnabod heddiw.[1] Yn anffodus, suddodd llong y Santa Maria ddiwrnod Nadolig 1492 a bu’n rhaid ei gadael yno. Cafodd Columbus ganiatâd gan y llwyth brodorol cacique Guacanagrai i adael rhai o’i griw yno, ac felly gadawodd 39 o ddynion, gan gynnwys un o’i gyfieithwyr, Luis de Torres. Yn sgil hynny, sefydlwyd La Navidad, sydd wedi ei leoli heddiw yn Bord de Mer de Limonade, Haiti. Cymerodd Columbus fwy o garcharorion o blith y trigolion lleol a pharhaodd â’i anturiaethau.[11] Parhaodd i hwylio ar hyd arfordir gogledd Hispaniola gydag un llong yn unig, nes iddo ddod ar draws y Pinta ar 6 Ionawr.
Ar 13 Ionawr 1493 arhosodd Columbus ar dir yn y Byd Newydd am y tro olaf ar y daith hon, ym Mae Rincón, a oedd wedi ei leoli ar begwn dwyreiniol Penrhyn Samaná yng ngogledd-ddwyrain Hispaniola. Dychwelodd Columbus i Sbaen a lledaenodd yr hanes yn gyflym drwy Ewrop ei fod wedi darganfod tiroedd newydd.[1]
Gadawodd Columbus borthladd Cadiz ar 24 Medi 1493 gyda fflyd o 17 o longau yn cario 1,200 o ddynion a digon o adnoddau a chyflenwadau i sefydlu trefedigaethau parhaol yn y Byd Newydd. Roedd y teithwyr ar y llongau yn cynnwys offeiriaid, ffermwyr a milwyr, gan mai'r rhain fyddai’r gwladychwyr newydd. Roedd y bwriad yn adlewyrchu polisi’r gwledydd hyn, oedd nid yn unig yn dymuno creu ‘trefedigaethau ecsbloetio’ ond hefyd am greu ‘trefedigaethau gwladychu’ i lansio ymgyrchoedd cenhadu er mwyn ceisio troi’r brodorion at Gristnogaeth.[12]
Ar 3 Tachwedd gwelodd Columbus ynys a enwodd yn Dominica (Lladin am ddydd Sul), a chyrhaeddodd ynys Guadeloupe, a enwodd yn Santa Maria de Guadalupe ar ôl cerflun o’r Forwyn Fair yn y fynachlog yn Villuercas yn Guadalupe, Caceras, Sbaen.
Yn ystod gweddill mis Tachwedd fforiodd, gwelodd ac enwodd Columbus nifer o ynysoedd eraill ym Môr y Caribȋ:
Gwelodd Columbus hefyd gadwyn o ynysoedd a enwyd yn Ynysoedd y Wyryf.
Ar 22 Tachwedd dychwelodd Columbus i Hispaniola, lle'r oedd wedi bwriadu ymweld â chaer La Navidad, a adeiladwyd yn ystod ei fordaith gyntaf ac a oedd wedi ei lleoli ar arfordir gogleddol Haiti. Darganfu Columbus fod y gaer yn adfail ac wedi cael ei dinistrio gan frodorion lleol Taino. Roedd cyrff 11 o’r 39 Sbaenwr a arhosodd fel rhai o wladychwyr cyntaf y Byd Newydd ymhlith yr adfeilion.[14]
Hwyliodd Columbus ymlaen am fwy na 62 milltir ar hyd arfordir gogleddol Hispaniola, gan sefydlu trefedigaeth newydd a alwodd yn La Isabela, sydd heddiw yn rhan o Weriniaeth Dominica. Er hynny, roedd y lleoliad yn anaddas, a byrhoedlog fu cyfnod y sefydliad.[15]
Yn ôl dyddiaduron Columbus, amcan y fordaith honno oedd profi bodolaeth cyfandir a honnai'r Brenin John II o Bortiwgal oedd wedi ei leoli i'r de-orllewin o Ynysoedd Cape Verde.
Ar 30 Mai 1498 gadawodd Columbus am ei drydedd fordaith i’r Byd Newydd gyda chwe llong o Sanlúcar, Sbaen. Hwyliodd tair o’r llongau yn uniongyrchol am Hispaniola tra arweiniodd Columbus y tair llong arall i archwilio beth oedd i’r de o Ynysoedd y Caribȋ, gan obeithio canfod llwybr draw i gyfandir Asia.[16]
Cyrhaeddodd fflyd Columbus gyfandir honedig y Brenin John II, sef De America, lle gwelsant dir Trinidad ar 31 Gorffennaf, o gyfeiriad y de-ddwyrain. Glaniodd Columbus ar ynys Trinidad mewn lle o’r enw Icacos Point ar 2 Awst. Enwodd Trinidad ar ôl y Drindod Sanctaidd, yr oedd wedi gweddïo arnynt i'w amddiffyn yn ystod y daith.[15]
Ar ôl cael cyflenwad o fwyd a dŵr, bu’n fforio yn Gwlff Paria rhwng 4 a 12 Awst, sef darn o fôr oedd yn gwahanu Trinidad a Fenezuela, ac a oedd yn agos i geg yr Afon Orinoco.[15]
Wrth fforio’r cyfandir newydd hwn, ac ar ôl gweld bod dŵr ffres yn llifo i afon Orinoco ac i mewn i Fôr Iwerydd, daeth Columbus i’r casgliad ei fod wedi cyrraedd tir mawr yn hytrach nag ynys arall. Tybiodd mai’r cyfandir newydd hwn oedd lleoliad Gardd Eden y Beibl. Parhaodd i hwylio gan weld Tobago (a enwodd yn ‘Bella Forma’) a Grenada (a enwodd yn ‘Concepción’).[15][17]
Gadawodd Columbus borthladd Cadiz ar 11 Mai 1502 gyda’i fanerlong y Santa Maria a llongau y Gallega, Vizcaina a’r Santiago de Palos.
Ar 15 Mehefin cyrhaeddodd Ynys Martinique (Martinica) a chyrhaeddodd Santo Domingo ar 29 Mehefin. Wedi arhosiad byr yn Jamaica, hwyliodd Columbus ymlaen i Ganolbarth America, gan gyrraedd Guanaja (Isla de Pinos) ar Orffennaf 30 oddi ar arfordir Hondwras. Treuliodd ddau fis yn fforio ar hyd arfordiroedd Hondwras, Nicaragwa a Chosta Rica cyn cyrraedd Bae Almirante yn Panama ar Hydref 16. Profodd rai trafferthion yn Panama, gydag ymosodiadau oddi wrth lwyth lleol y Quibian, a difrodwyd y llongau yn y dyfroedd trofannol gan fwydod llongau.[18]
Erbyn Mai 1503 roedd wedi gweld Ynysoedd Caiman a’u henwi nhw'n ‘Las Tortugas’ oherwydd y niferoedd mawr o grwbanod môr oedd yno. Oherwydd tywydd gwael cafodd y llongau ragor o ddifrod a gorfodwyd ef a’i forwyr i aros ar ynys Jamaica am flwyddyn, gan ddychwelyd i Sbaen ym mis Tachwedd 1504.[18][19]
Roedd bywyd ar y môr yn galed ac yn anodd. Dioddefodd Columbus nifer o anhwylderau tra bu ar ei deithiau, gan gynnwys gwaedu o’r llygaid, dallineb dros dro a gwres uchel. Yn ôl damcaniaethau meddygon modern mae’n ddigon posib ei fod wedi dioddef ffurf o wynegon yn hytrach na gowt.[20]
Bu farw ar 20 Mai 1506, ac yntau tua 54 mlwydd oed, yn Valladolid, Sbaen.[21]
Claddwyd Columbus mewn lleiandy yn Valladolid yn gyntaf, ond yna symudwyd ei weddillion i fynachlog La Cartuja yn Seville (de Sbaen) yn unol â dymuniad ei fab Diego. Codwyd ei gorff yn 1523 a chladdwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Seville, ac yna tua 1536 cafodd gweddillion Columbus a Diego eu symud i eglwys gadeiriol Colonial Santo Domingo, sydd yng Ngweriniaeth Dominicia heddiw.
Symudwyd ei weddillion i Havana ar ynys Ciwba cyn iddynt gael eu gosod yn derfynol yn Eglwys Gadeiriol Seville, Sbaen, a phrofwyd drwy ddefnyddio profion DNA mai gweddillion Columbus oedd y rhain o ddifri.[22]
Roedd mordeithiau Columbus yn cael eu hystyried yn ddigwyddiadau pwysig yn hanes y byd oherwydd mae’n bosib eu gweld fel cychwyn cyfnod newydd o ran globaleiddio’r byd. Arweiniodd hyn at newidiadau mawr o ran poblogaeth, masnach, yr economi a datblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol. Mordeithiau Columbus oedd y trobwynt pwysicaf o ran agor y llwybrau cyswllt rhwng yr Hen Fyd a’r Byd Newydd.
Golygai teithiau fforio Columbus a fforwyr eraill bod cysylltiad parhaol wedi ei sefydlu rhwng y ddau hemisffer, sef y gogledd a’r de. Bu cyfnewidfeydd cyson rhwng y naill a'r llall ar ffurf anifeiliaid, ffyngau, afiechydon, technolegau newydd, mwynfeydd gwerthfawr fel arian ac aur a chyfnewidiwyd syniadau newydd a gwahanol.
Ar y naill ochr, effeithiwyd ar rai o bobl frodorol y Byd Newydd oherwydd yr afiechydon a ddaeth i ganlyn y fforwyr. Disodlwyd hwy gan Ewropeaid ac Affricaniaid a ddaethant gyda hwy a dulliau newydd o ffermio, cynnal busnes, ffurfiau newydd o reoli a chrefyddau newydd. Nid oedd Columbus ychwaith yn llywodraethwr poblogaidd yn Hispaniola, a phenododd Sbaen lywodraethwr yn ei le ar yr ynys.[15]
Yn niwylliant poblogaidd UDA ac Ewrop mae Columbus yn cael ei gydnabod fel y fforiwr a ddarganfu Unol Daleithiau America. Ond mewn gwirionedd, nid Columbus oedd yr Ewropeaid cyntaf, hyd yn oed, i gyrraedd traethau’r cyfandir, gan fod Erik Goch a Leif Erikson wedi cyrraedd y cyfandir yn ystod y 10fed a’r 11g.
Pwysigrwydd Columbus yw ei fod wedi dod â’r Americas i sylw Ewrop a’i fod wedi sefydlu gwladfeydd yno a fyddai’n sicrhau cysylltiad parhaol rhwng dau gyfandir mawr y byd.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.