From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Crawshay Bailey (1789 – 9 Ionawr 1872) yn un o ddiwydianwyr mwyaf gwledydd Prydain yn yr 19g, yn feistr haearn, yn berchennog glofeydd ac yn gyfarwyddwr cwmnïau rheilffordd. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy o 1852 i 1868.[1]
Crawshay Bailey | |
---|---|
Ganwyd | 1789 Wenham Magna |
Bedyddiwyd | 8 Tachwedd 1789 |
Bu farw | 9 Ionawr 1872 Y Fenni |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | gwleidydd, diwydiannwr |
Swydd | Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Ganwyd Bailey yn Great Whenam, Suffolk yn fab i John Bailey, ffarmwr cefnog o Swydd Efrog, a Susannah (née Crawshay) ei wraig. Mae union ddyddiad ei eni yn ansicr, ond fei bedyddiwyd yn Eglwys y Plwyf, Great Wenham ar 8 Tachwedd 1789 [2]. Mab arall i'r teulu oedd y diwydiannwr ac AS Sir Frycheiniog Joseph Bailey. Roedd, Susannah, Mam Bailey yn chwaer i'r meistr haearn Richard Crawshay o Gastell Cyfarthfa Merthyr Tudful. Priododd Charlotte, chwaer Crawshay Bailey, a'r gwleidydd Benjamin Hall. Gweler hefyd Crawshay (teulu) qv am gysylltiadau eraill.
Ym 1820 priododd Crawshay Bailey ag Ann Moore bu iddynt un blentyn Jane Crawshay Bailey (1823-1900); roedd ei unig fab a'i etifedd, Crawshay Bailey ieu, a anwyd ym 1841 yn blentyn o groth Sarah Baker, morwyn ar ei aelwyd.[3] Ar 3 Medi 1850, yn Holstein yr Almaen priododd ag Ann, gweddw William ei frawd[4]; bu hi farw ar 1 Tachwedd 1865 [5]
Yn deuddeng mlwydd oed symudodd Bailey i Ferthyr er mwyn gweithio i'w ewyrth, yr oedd Joseph ei frawd eisoes yno. Ym 1810 bu farw Richard Crawshay a derbyniodd Bailey £1,000 o'i ewyllys, galluogodd y cymynroddion y derbyniasant i Crawshay a Joseph prynu gwaith haearn Nant-y-glo a oedd yn methu ar y pryd, ond llwyddodd rheolaeth y brodyr Bailey i dro'r gwaith yn un o fentrau pwysicaf Sir Fynwy.[6]. Wedi hyn, prynwyd gwaith haearn Cendl, (Beaufort) a gwaith haearn Aberaman gan y brodyr.[7]
Roedd Crawshay a Joseph Bailey yn ddidostur ac unplyg wrth gyflawni eu huchelgeisiau diwydiannol a chymdeithasol. Cafodd Crawshay, yn arbennig, ei ddisgrifio fel un llym a gormesol a'r anoddaf o feistriaid gwaith. Cododd tyrau caerog ar ei gartref yn Nant-y-glo ar gyfer ei amddiffyn yn ystod cyfnodau o aflonyddwch ymysg y gweithiwr. Roedd yn gwrthod gadael i'w gweithwyr ymuno ag undebau llafur a rhybuddiodd y sawl oedd yn ymgyrchu am ddiwygiad cymdeithasol y byddai'n mentro fy mywyd yn hytrach na cholli fy eiddo.[8]
Fe welodd Crawshay y fantais o fuddsoddi yn y diwydiant glo er mwyn osgoi gorfod prynu'r tanwydd oedd yn rhedeg ei gweithfeydd gan eraill, i'r diben hwn prynodd aceri lawer o dir amaethyddol yn ardaloedd Cwm Rhondda, Aberpennar ac Aberaman. I sicrhau ei fod yn prynu'r tir am y pris isaf cadwodd y rhan fwyaf o'i dir am gyfnod maith heb gloddio oddi tano, gan roi'r argraff ei fod yn adeiladu ystâd amaethyddol, trwy hyn fe lwyddodd i brynu'r tir am ei bris amaethyddol yn hytrach na'r pris llawer uwch y byddid yn disgwyl i'w dalu am dir cloddio am fwynau.
Bu'n flaenllaw yn y busnes adeiladu a buddsoddi mewn rheilffyrdd. Adeiladodd dramffordd o Rymni i Fasaleg a rheilffordd dyffryn Aberdâr, adeiladodd dramffordd o Cendl a Nant-y-glo i Lan-ffwyst i gysylltu â chamlas Sir Fynwy a Brycheiniog. Yn 1852 bu'n hyrwyddo gwneuthur rheilffordd o Fforest y Ddena trwy Coleford, Trefynwy, a Brynbuga i Bont-y-pŵl, roedd ganddo fuddsoddiad mawr yng nghwmni Harbwr, Dociau a Rheilffordd Penarth[9]. Bu'n hyrwyddo a buddsoddi yn Rheilffordd Merthyr, Tredegar, a'r Fenni a bu ganddo nifer o gyfranddaliadau mewn cwmnïau rheilffordd mewn rhannau eraill o wledydd Prydain a gweddill y byd, yn arbennig yn yr UDA. Roedd yn ategu at werth ei fuddsoddiadau drwy sicrhau bod y trenau yn rhedeg ar gledrau a gynhyrchwyd yn ei gweithfeydd haearn; bu ganddo warws mawr yn nociau Lerpwl er mwyn allforio cledrau i'r Unol Daleithiau.[1][6]
Safodd Bailey fel yr ymgeisydd Ceidwadol mewn isetholiad yn etholaeth Bwrdeistrefi Sir Fynwy ym 1852 a achoswyd drwy farwolaeth yr AS Rhyddfrydol Reginald James Blewitt, gan lwyddo i gipio'r sedd i'r achos Ceidwadol; cadwodd ei sedd yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau cyffredinol 1852, 1857, 1859, a 1865, ymddiswyddodd o'r senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1868, pan lwyddodd y Rhyddfrydwyr i gipio'r sedd yn ôl.
Roedd ei gyfraniad mwyaf yn y Senedd yn ymwneud ag hyrwyddo ei fuddiannau personol yn hytrach na fuddiannau ei etholwyr, bu'n hyrwyddwr brwd o filiau oedd yn caniatáu agor rheilffyrdd newydd tra’n wrthwynebus groch i ddeddfau oedd yn anghyfreithloni cyflogi menywod a phlant dan ddaear neu'n ceisio gorfodi gwell ddiogelwch mewn gweithfeydd haearn a phyllau glo.[8]
Gwasanaethodd fel Siryf Sir Frycheiniog ym 1837[10] ac fel Siryf Sir Fynwy ym 1850[11].
Bu farw Bailey yn ei gartref ger y Fenni yn 84 mlwydd oed[12] a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Eglwys Llan-ffwyst.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.