![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e5/SARS-CoV-2_%2528CDC-23312%2529.png/640px-SARS-CoV-2_%2528CDC-23312%2529.png&w=640&q=50)
Coronafeirws (grŵp o firysau)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Grŵp o firysau a all achosi heintiau mewn mamaliaid ac adar yw'r coronafirysau, a ddarganfuwyd yn y 1960au.[1] Mewn bodau dynol, mae'n achosi problemau anadlu, a cheir amrywiadau negis SARS a MERS sy'n beryg bywyd, a mathau eraill sy'n eithaf diniwed ac sy'n debycach i'r ffliw. Mewn gwartheg a moch gall y firws achosi dolur rhydd, tra mewn ieir gall achosi clefyd anadlol. Yn 2020 nid oedd brechlynnau na chyffuriau gwrthfeirol a oedd yn cael eu cymeradwyo i atal y firws rhag ymledu, na thriniaeth ar gyfer y claf.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | tacson, organebau yn ôl enw cyffredin ![]() |
---|---|
Math | Firws ![]() |
Safle tacson | Isdeulu ![]() |
Rhiant dacson | Coronaviridae ![]() |
![]() |
- Erthygl am y grwp o firysau yw hon.
- Am y firws penodol a achosodd yr epidemig, gweler SARS-CoV-2.
- Am yr haint a achoswyd gan SARS-CoV-2, gweler COVID-19
- Am y pandemig cyfoes, gweler yr erthygl Pandemig coronafeirws 2019–20.
Mae'r coronafeirws yn feirws o fewn yr isdeulu Orthocoronavirinae yn y teulu Coronaviridae, o fewn urdd y Nidovirales.[2][3] Mae'r coronafirysau'n 'amlennol', ac mae ganddyn nhw positive-sense single-stranded RNA genome a chymesuredd heligal. Hyd y gwyddys, dyma'r firws-RNA mwya: 26 i 32 kbp (kilo base pair).
Mae'r enw 'coronafeirws' yn fenthyciad o'r Saesneg, "coronavirus" sy'n deillio o'r gair Lladin 'corona' sef 'coron' yn Gymraeg, ac sy'n cyfeirio at ymddangosiad nodweddiadol y gronynnau firws (virions): mae ganddyn nhw ymyl sy'n atgoffa rhywun o goron frenhinol neu'r corona solar.