From Wikipedia, the free encyclopedia
Imiwneiddio yw'r broses ble mae'r system imiwnedd unigolyn yn cael eu hatgyfnerthu yn erbyn asiant (a elwir yn immunogen).[1]
Math | immune system process |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir imiwnedd gweithredol pan fod unigolion yn cynhyrchu gwrthgyrff yn eu llif gwaed eu hun. Gall hyn ddigwydd naill ai yn naturiol pan fydd y corff wedi cael ei heintio gan glefyd, neu yn artiffisial drwy frechiad. Bydd imiwneiddio’n digwydd ar wahanol bwyntiau drwy gydol oes unigolyn, ond yn bennaf byddant yn digwydd yn ystod plentyndod.
Gall rhaglenni imiwneiddio cyffredinol arwain at ddifa clefydau.
Gall imiwnedd heidiol hefyd chwarae rhan mewn atal haint. Pan fod cyfran sylweddol o'r boblogaeth wedi cael ei brechu gallant weithredu fel amddiffyniad neu rwystr i eraill a darparu amddiffyniad i'r rhai sy’n ddiamddiffyn, trwy arafu neu stopio'r gadwyn haint.
Fel gydag unrhyw beth, mae imiwneiddio'n dod â nifer o risgiau. Gallai rhai unigolion gael adweithiau alergaidd prin, ond yn y rhan fwyaf o achosion mae budd imiwneiddio'n gorbwyso’r risgiau wrth ddal y clefyd ei hun ac fel rheol bydd unigolyn ddim ond yn datblygu twymyn ysgafn.
Mae rhai o'r risgiau sy'n gysylltiedig â rhai imiwneiddiadau’n cynnwys:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.