From Wikipedia, the free encyclopedia
Grŵp o firysau a all achosi heintiau mewn mamaliaid ac adar yw'r coronafirysau, a ddarganfuwyd yn y 1960au.[1] Mewn bodau dynol, mae'n achosi problemau anadlu, a cheir amrywiadau negis SARS a MERS sy'n beryg bywyd, a mathau eraill sy'n eithaf diniwed ac sy'n debycach i'r ffliw. Mewn gwartheg a moch gall y firws achosi dolur rhydd, tra mewn ieir gall achosi clefyd anadlol. Yn 2020 nid oedd brechlynnau na chyffuriau gwrthfeirol a oedd yn cael eu cymeradwyo i atal y firws rhag ymledu, na thriniaeth ar gyfer y claf.
Enghraifft o'r canlynol | tacson, organebau yn ôl enw cyffredin |
---|---|
Math | Firws |
Safle tacson | Isdeulu |
Rhiant dacson | Coronaviridae |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r coronafeirws yn feirws o fewn yr isdeulu Orthocoronavirinae yn y teulu Coronaviridae, o fewn urdd y Nidovirales.[2][3] Mae'r coronafirysau'n 'amlennol', ac mae ganddyn nhw positive-sense single-stranded RNA genome a chymesuredd heligal. Hyd y gwyddys, dyma'r firws-RNA mwya: 26 i 32 kbp (kilo base pair).
Mae'r enw 'coronafeirws' yn fenthyciad o'r Saesneg, "coronavirus" sy'n deillio o'r gair Lladin 'corona' sef 'coron' yn Gymraeg, ac sy'n cyfeirio at ymddangosiad nodweddiadol y gronynnau firws (virions): mae ganddyn nhw ymyl sy'n atgoffa rhywun o goron frenhinol neu'r corona solar.
Credir bod coronafirysau yn achosi canran sylweddol o'r holl annwyd cyffredin mewn oedolion a phlant. Mae coronafirysau yn achosi symptomau trwm e.e. twymyn, adenoidau chwyddedig yn y gwddf, a hynny yn bennaf yn nhymor y gaeaf a dechrau'r gwanwyn.[4] Gall coronafirysau achosi niwmonia, naill ai niwmonia firaol uniongyrchol neu niwmonia bacteriol eilaidd a gallant hefyd achosi broncitis, firaol neu facteriol.[5]
Mae gan y coronafeirws dynol a ddarganfuwyd yn 2003, sef y SARS-CoV sy'n achosi syndrom anadlol acíwt difrifol (SARS), bathogenesis unigryw oherwydd ei fod yn achosi heintiau'r llwybr anadlol uchaf ac isaf.[5]
Yn 2020, roedd 7 math (neu 'strain') o goronofirysau'n bodoli, gyda 4 ohonynt yn hollol ddiniwed ac yn rhoi symptomau annwyd. Dyma'r 7:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.