Condom benyw
condom benywaidd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r condom benyw, condom fagina, condom benywaidd neu, fel rheol ar lafar, femidom yn ddyfais atal cenhedlu ac yn ddidrafferth i fenywod. Yn wahanol i'r condom gwrywaidd sy'n cympasu'r pidyn, mae'r condom benywaidd yn cwmpasu'r fagina (gwain) ac yn rhan o'r fwlfa. Mae'n cynnwys gorchudd polywrethan denau sy'n cyd-fynd â waliau'r fagina a gall bara hyd at wyth awr. Gellir ei roi ychydig oriau cyn y cyfathrach rywiol ac nid oes raid i chi ei dynnu'n syth ar ôl cyfathrach. Fe'i gwerthir mewn fferyllfeydd.
Enghraifft o'r canlynol | contraceptive |
---|---|
Math | condom |
Deunydd | Polywrethan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r ddyfais yn galluogi'r fenyw i osgoi beichiogrwydd, lledaeniad heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ac AIDS.
Dyfeisiwyd y comdom benywaidd gan Dr Lasse Hessel o Ddenmarc ac ymddangosodd y condom benywaidd ym 1992 yn Lloegr a'r Unol Daleithiau, ac fe'i gwasgarwyd ar unwaith i weddill Ewrop yn y byd.
Caiff y condom benyw ei werthu o dan sawl enw brand gan gynnwys, Reality, Femidom, Dominique, Femy, Myfemy, Protectiv a Care. Mae'r enw Femidom, fel 'hŵfer' (Hoover) am lwch-sugnwr, yn aml yn cael ei ddefnyddio fel enw generic am y ddyfais.
Mae'r condom benywaidd wedi bod yn fwy poblogaidd mewn gwledydd tlawd sy'n datblygu na gwledydd datblygedig.[1]