![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c1/Redwing_Turdus_iliacus.jpg/640px-Redwing_Turdus_iliacus.jpg&w=640&q=50)
Coch dan adain
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Coch dan adain (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: cochion dan adain) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Turdus iliacus; yr enw Saesneg arno yw Redwing. Mae'n perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Coch dan adain Turdus iliacus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Turdidae |
Genws: | Turdus[*] |
Rhywogaeth: | Turdus iliacus |
Enw deuenwol | |
Turdus iliacus
| |
![]() | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. iliacus, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop. Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru yn y gaeaf, ond nid ymddengys fod cofnod iddo nythu yma, er fod nifer fychan o barau yn nythu yn Yr Alban ar brydiau. Mae'r Coch Dan-aden yn aderyn mudol, sy'n symud tua'r de a thua'r gorllewin yn y gaeaf. Maent yn nythu mewn fforestydd, ond yn adeiladu'r nyth mewn llwyni neu ar lawr.
Mae'n nythu trwy rannau gogleddol Ewrop ac Asia ac yn aderyn cyfarwydd ymhellach i'r de yn y gaeaf.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d8/Redwing_nest.jpg/640px-Redwing_nest.jpg)
Gellir ei adnabod o'r cefn brown a bol wyn gyda rhesi neu smotiau tywyll, y lliw coch ar yr ochrau ac o dan yr adenydd a'r llinell wen amlwg uwchben y llygad. Mae tua'r un faint a Bronfraith. Ei brif fwyd yw pryfed yn yr haf ac aeron yn y gaeaf. Yn y gaeaf mae'n aml yn ymgasglu'n heidiau mawr, weithiau yn gymysg gyda'r Socan Eira.