From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur a newyddiadurwr[1] Seisnig-Americanaidd[2] oedd Christopher Eric Hitchens (13 Ebrill 1949 – 15 Rhagfyr 2011). Bu'n golofnydd ac yn feirniad llenyddol ar gyfer The Atlantic, Vanity Fair, Slate, World Affairs, The Nation, a Free Inquiry, a daeth yn gymrawd y cyfryngau yn yr Hoover Institution ym mis Medi 2008.[3] Roedd yn wyneb cyfarwydd ar sioeau sgwrs a'r cylched darlithio ac yn 2005 fe'i etholwyd yn bumed o brif ddeallusion cyhoeddus y byd gan arolwg Prospect/Foreign Policy.[4]
Christopher Hitchens | |
---|---|
Ganwyd | Christopher Eric Hitchens 13 Ebrill 1949 Portsmouth |
Bu farw | 15 Rhagfyr 2011 o niwmonia'r ysgyfaint Houston |
Man preswyl | Portsmouth, Washington |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, ysgrifennwr, awdur ysgrifau, hunangofiannydd, beirniad llenyddol, gwyddonydd gwleidyddol |
Adnabyddus am | Letters to a Young Contrarian, God Is Not Great, The Missionary Position: Mother Teresa in Theory and Practice, Mortality, Hitch-22, No One Left to Lie To |
Prif ddylanwad | George Orwell, Leon Trotsky, Thomas Paine, Thomas Jefferson, George Eliot, Vladimir Nabokov, Salman Rushdie, Colm Tóibín, Edward Said, Albert Camus |
Plaid Wleidyddol | Socialist Workers Party |
Mudiad | anffyddiaeth |
Priod | Eleni Meleagrou, Carol Blue |
Plant | Alexander Meleagrou-Hitchens |
Gwobr/au | Gwobr Richard Dawkins, Gwobr PEN/Diamonstein-Spielvogel am Gelfyddyd y Traethawd, Lannan Literary Awards, Gwobr Ariannol Lennon Ono, Emperor Has No Clothes Award, Great Immigrants Award |
llofnod | |
Edmygwr enwog o George Orwell, Thomas Paine, a Thomas Jefferson oedd Hitchens a beirniad hallt o nifer o unigolion enwog, gan gynnwys y Fam Teresa, Bill a Hillary Clinton, ac Henry Kissinger. Mae ei arddull wrthdrawiadol o ddadlau wedi'i wneud yn ffigur poblogaidd a dadleuol. Fel sylwebydd gwleidyddol, polemegydd, ac, yn ôl disgrifiad ei hunan, radicalwr, daeth i'r amlwg mewn cyhoeddiadau adain chwith ym Mhrydain ac yr Unol Daleithiau. Dechreuodd ei ymadawiad o'r chwith ym 1989 o ganlyniad i ymateb y chwith yn y Gorllewin i fatwā'r Ayatollah Khomeini oedd yn galw am lofruddiaeth Salman Rushdie. Cryfhaodd ymosodiadau 11 Medi, 2001 ei gefnogaeth ryng-genedlaetholaidd dros bolisi tramor ymyraethol, a'i feirniadaeth groch o'r hyn a alwodd yn "ffasgiaeth ag wyneb Islamaidd". Labelwyd yn neo-geidwadwr gan rai o ganlyniad i'w nifer o erthyglau golygyddol o blaid Rhyfel Irac, ond mynnodd Hitchens nad yw'n "geidwadwr o unrhyw fath".[5]
Ystyrid Hitchens yn un o ffigurau blaenllaw y mudiad "Anffyddiaeth Newydd", a disgrifiodd ei hunan yn wrthdduwydd ac yn gredwr yng ngwerthoedd athronyddol yr Oleuedigaeth. Dywedodd Hitchens y gall berson "bod yn anffyddiwr gan ddymuno bod cred yn nuw yn gywir", ond "gwrthdduwydd (antitheist), term yr wyf yn ceisio ei boblogeiddio, yw rhywun sydd yn falch nad oes tystiolaeth dros y fath honiad".[6] Dadleuodd taw cred dotalitaraidd sy'n dinistrio rhyddid unigol yw'r cysyniad o dduw neu oruchaf fod, ac y ddylai mynegiant rhydd a darganfyddiad gwyddonol cymryd lle crefydd fel modd o ddysgu moeseg a diffinio gwareiddiad dynol. Ysgrifennodd ar anffyddiaeth a natur crefydd yn ei lyfr God Is Not Great a gyhoeddwyd yn 2007.
Er iddo gadw ei ddinasyddiaeth Brydeinig, daeth Hitchens yn ddinesydd Americanaidd ar risiau Cofeb Jefferson ar 13 Ebrill 2007, ei ben-blwydd yn 58 oed.[7] Cyhoeddwyd ei hunangofiant Hitch-22: A Memoir ym Mehefin 2010. Daeth y daith ar gyfer y llyfr i ben yn hwyrach yn yr un mis er mwyn iddo gychwyn triniaeth am gancr yr oesoffagws.[8] Bu farw ar 15 Rhagfyr 2011 o niwmonia, cymhlethdod i'w gancr.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.