gwleidydd (1822-1896) From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Charles Watkin Williams-Wynn (4 Hydref 1822 – 25 Ebrill 1896) yn wleidydd Ceidwadol Cymreig a eisteddodd yn Nhŷ'r Cyffredin o 1862 i 1880 fel Aelod Seneddol Maldwyn [1]
Charles Watkin Williams-Wynn | |
---|---|
Ganwyd | 4 Hydref 1822 |
Bu farw | 25 Ebrill 1896 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Charles Watkin Williams-Wynn |
Mam | Mary Cunliffe |
Priod | Annora Charlotte Pierrepont |
Plant | Mary Williams-Wynn, Charles Hugh Watkin Williams-Wynn, Agnes Sophia Williams-Wynn, Annora Margaret Williams-Wynn, Constance Hariott Williams-Wynn, Arthur Watkin Williams-Wynn, Henry Cunliffe Williams-Wynn, Frederick Rowland Williams-Wynn |
Roedd Charles yn fab ac etifedd y Gwir Anrhydeddus Charles Watkin Williams Wynn, Pentrego, AS Maldwyn o 1799 i 1850 a Mary merch hynaf Syr Foster Cuniliffe.
Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Westminster a Choleg Eglwys Crist Rhydychen lle graddiodd BA ym 1843 ac MA ym 1845.
Ym 1853 priododd y Ledi Annora Pierrepont, ail ferch yr ail Iarll Manvers, bu hi farw ym 1888. Bu iddynt wyth o blant:
Galwyd Williams-Wynne i'r bar yn Lincoln's Inn ym 1846 a fu'n gweithio fel Bargyfreithiwr Adolygol hyd iddo etifeddu ystâd ei dad ym 1850.
Roedd yn Cofiadur Llysoedd Croesoswallt o 1862 hyd at ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth ac yn Ynad Heddwch Sir Drefaldwyn [2]
Cyn fu newidiadau i'r drefn ddemocrataidd i ehangu'r bleidlais ac i fwrw pleidlais mewn dirgelwch ystyrid etholaeth Maldwyn yn eiddo i deulu Williams-Wynne. Rhagflaenydd Charles fel Aelod Seneddol oedd Herbert Watkin Williams-Wynn ei gefnder (roedd y ddau yn ŵyr i Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig). Rhagflaenydd Herbert oedd Charles Watkin Williams-Wynn yr hynaf, tad Charles Williams-Wynn; bu hen daid Charles Syr Watkin Williams-Wynne, 3ydd Barwnig yn cynrychioli'r sedd yn y 1740au.
Etholwyd Charles Williams-Wynn am y tro cyntaf mewn isetholiad ym 1862 a achoswyd trwy farwolaeth ei gefnder, dyma fu'r etholiad cystadleuol cyntaf yn yr etholaeth ers 1831. Llwyddodd Williams- Wynne i drechu ei wrthwynebydd Rhyddfrydol, Charles Hanbury-Tracy, yn weddol gyffyrddus. Bu'r etholiad yn un nodedig gan i dorf o ryw 400-500 o bobl tarfu ar gefnogwyr Williams-Wynn yn Llanidloes er mwyn ceisio eu rhwystro rhag pleidleisio; cafodd pedwar o arweinwyr y brotest eu carcharu am 3 mis am eu rhan yn y digwyddiad.[3]
Cafodd Williams-Wynne ei ailethol yn ddiwrthwynebiad mewn pob etholiad hyd 1880 pan wynebodd wrthwynebiad gan ymgeisydd Rhyddfrydol, Stuart Rendel, a cholli ei sedd a chanrifoedd o ddylanwad ei deulu ar yr etholaeth. Ceisiodd adennill ei sedd yn etholiad cyffredinol 1885 ond heb lwyddiant, ac arhosodd yr etholaeth yn nwylo'r Rhyddfrydwyr am y nawdeg naw flwyddyn ddilynol[4]
Roedd Williams-Wynn yn ystyried ei aelodaeth o'r Senedd fel dyletswydd bonheddig yn hytrach na gyrfa wleidyddol, gan hynny prin oedd ei gyfraniadau i waith Tŷ'r Cyffredin (dim ond naw araith mewn 12 mlynedd)[5].
Bu farw Williams-Wynn yn ei gartref yn Llundain 2 Lower Berkeley Street a chladdwyd ei weddillion yn Eglwys Meifod
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.