![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/20/Boerenkool.jpg/640px-Boerenkool.jpg&w=640&q=50)
Celys
From Wikipedia, the free encyclopedia
Am y dref yn Iwerddon a elwir weithiau yn Gymraeg yn Celys, gweler Kells.
Deil-lysieuyn yw celys,[1] cêl[1] neu fresychen ddeiliog sydd yn cynnwys sawl cyltifar o fresych (Brassica oleracea) a nodweddir gan goesynnau hirion, dail mawrion, a diffyg pen caled.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
![]() Celys cwrlog. | |
Enghraifft o'r canlynol | llysieuyn, tacson ![]() |
---|---|
Math | llysieuyn, llysieuyn dail ![]() |
Safle tacson | amrywiad ![]() |
Rhiant dacson | Bresychen wyllt ![]() |
Dechreuwyd | 4 g CC ![]() |
Cynnyrch | Brassica napus subsp. napus var. pabularia ![]() |
![]() |
Cau
Mae'r cyltifarau cyffredin o gelys yn cynnwys:
- Celys cwrlog, gyda dail crychion o liw gwyrdd, a chanddo flas fymryn chwerw ac ansoddni cryf, a roddir mewn saladau, swpiau, a llysiau tro-ffrio;
- Celys Eidalaidd, celys palmwydd neu gelys deinosor, gyda dail hirion, meinion o liw gwyrdd tywyll, a chanddo flas melys ac ansoddni meddal o'i gymharu â chelys cwrlog, a ddefnyddir yn fynych mewn coginiaeth Eidalaidd;
- Celys Rwsiaidd, gyda dail crychion o liw coch-borffor, a dyfir am fwyd ac am addurno gerddi a thirlunio.
Planhigyn eilflwydd yw celys, ond fel arfer fe'i tyfir yn flynyddol. Wrth flodeuo yn yr ail flwyddyn, mae'n cynhyrchu blodau melyn a ffrwythau ar ffurf silicwa. Cnwd caled ydyw a gaiff ei fwyta yn ystod tymhorau'r hydref a'r gaeaf yn bennaf, am fod y tywydd oer yn gwella'i flas.[2]