Brocoli

From Wikipedia, the free encyclopedia

Brocoli

Planhigyn bwytadwy yn nheulu'r fresychen ydy brocoli. Mae ei flodyn gwyrdd golau wedi cael ei fwyta fel llysieuyn ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid a mabwysiadwyd eu henw hwy arno yn Gymraeg a nifer o ieithoedd eraill, sef broccolo (Lladin), sy'n golygu "brig blodeuol y fresychen" a'r ffurf bachigol brocco, sef "hoelen fechan" neu "flaguryn".[3] Fel arfer caiff ei ferwi neu ei stemio, er mwyn ei feddalu ac er mwyn medru ei dreulio'n well.[4]

Ffeithiau sydyn Broccoli, Rhywogaeth ...
Broccoli
Thumb
Brocoli
RhywogaethBrassica oleracea
GrŵpItalica Group
TarddiadYr Eidal (2,000 o flynyddoedd yn ôl)[1][2]
Cau
Thumb
Cynhyrchwyr brocoli a blodfresych yn 2005

Dosbarthwyd brocoli i'r grŵp cylfatar 'Italica' o fewn y rhywogaeth Brassica oleracea. O ran ffurf ac edrychiad, mae'n edrych yr un siâp a choeden fechan: gyda'i ganghennau'n ymrannu ar yn ail a bonyn sylweddol; gellir bwyta'r bonyn hefyd. Caiff y blodau gwyrdd golau eu hamgylchu gan ddail, ac mae hyn yn debyg iawn i'r flodfresychen, sy'n grŵp cyltifar gwahanol o fewn yr un rhywogaeth.

Bridiwyd cnydau rêp dros sawl canrif yng ngwledydd gogleddol y Môr Canoldir, gan ddechrau oddeutu 6g CC, a dyma darddiad brocoli.[5] Ers hynny caiff ei ystyried yn fwyd maethlon a phwysig mewn sawl gwlad, yn enwedig gan yr Eidalwyr.[6]

Mewnforiwyd brocoli i Gymru am y tro cyntaf, hyd y gwyddom, o Antwerp, a hynny yng nghanol y 18g gan Peter Scheemakers.[7] Yn yr Unol Daleithiau, mewnforiwyd ef gan fewnfudwyr Eidalaidd, ond ni ddaeth yn boblogaidd tan y 1920au hwyr.[8]

Maeth

Ffeithiau sydyn Gwerth fel maeth 100 g (3.5 oz), Egni ...
Brocoli, amrwd (rhannau bwytadwy)
Gwerth fel maeth 100 g (3.5 oz)
Egni141 kJ (34 kcal)
6.64 g
Siwgwr1.7 g
Ffibr2.6 g
Saim
0.37 g
2.82 g
Fitamins
Fitamin A
beta-carotene
lutein zeaxanthin
(4%)
31 μg
(3%)
361 μg
1403 μg
Thiamine (B1)
(6%)
0.071 mg
Riboflavin (B2)
(10%)
0.117 mg
Niacin (B3)
(4%)
0.639 mg
Pantothenic acid (B5)
(11%)
0.573 mg
Fitamin B6
(13%)
0.175 mg
Folate (B9)
(16%)
63 μg
Fitamin C
(107%)
89.2 mg
Fitamin E
(5%)
0.78 mg
Fitamin K
(97%)
101.6 μg
Metalau
Calsiwm
(5%)
47 mg
Haearn
(6%)
0.73 mg
Magnesiwm
(6%)
21 mg
Manganîs
(10%)
0.21 mg
Ffosfforws
(9%)
66 mg
Potasiwm
(7%)
316 mg
Sodiwm
(2%)
33 mg
Sinc
(4%)
0.41 mg
Ansoddau eraill
Dŵr89.3 g

Canrannau a amcangyfrifwyd ar gyfer oedolion.
Source: USDA Cronfa ddata o faethynau
Cau

Cynhyrchu Byd-eang

Rhagor o wybodaeth Y deg prif gynhyrchydd yn 2012, Gwlad ...
Y deg prif gynhyrchydd yn 2012
Gwlad Cynhyrchiad (tunelli) Canran (%) Nodyn
 Gweriniaeth Pobl Tsieina9,500,00044.67F
 India7,000,00032.92F
Baner Yr Eidal Yr Eidal 414,1421.95
 Mecsico397,4081.87
 Ffrainc344,4141.62
 Gwlad Pwyl306,7761.44
 Unol Daleithiau303,4501.43
 Pacistan224,0001.05F
 Almaen176,6920.83
 Yr Aifft171,0880.80
Byd 21,266,789 100 A
* = Data answyddogol | [ ] = Data swyddogol | A = Swyddogol neu answyddogol neu amcangyfrifiad
F = Amcangyfrif FAO | Im = Data FAO | M = Data ddim ar gael

Ffynhonnell: UN Food & Agriculture Organisation (FAO)[9]

Cau


Amaethu

Mae'r planhigyn brocoli'n tyfu ar ei orau mewn tywydd claear (ddim yn rhy gynnes nac yn rhy oer): yn enwedig pan gaiff dymheredd dyddiol o rhwng 18 °C a 23 °C.[10] Pan dyf y blodau yng nghanol y planhigyn, mae'r clwstwr yn wyrdd. Yr adeg hon, fel arfer, torrir y rhan uchaf oddeutu dwy gentimetr o'r top, a hynny cyn i'r blodyn droi'n felyn.[11]

Ond ceir math o frocoli (brocoli eginol) a all wrthsefyll tywydd poeth a'r pryfaid a ddaw yn sgil hynny.[12]

Plâu

Y plâ pennaf yw lindys y Glöyn byw a elwir yn Wyn bach (Pieris rapae), sy'n gyffredin iawn.

Galeri

Thumb
Thumb
Thumb
Y blodau Brocoli Sicili Piws Deilen
Thumb
Thumb
Thumb
Thumb
Blodau brocoli Brocoli Romanesco Yn ei flodau Brocoli wedi'i stemio

Cyfeiriadau

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.