Celyn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Coeden fythwyrdd gyda dail pigog ac aeron coch yw celyn neu'r gelynnen (enw gwyddonol: Ilex aquifolium).
Celyn | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Aquifoliales |
Teulu: | Aquifoliaceae |
Genws: | Ilex |
Rhywogaeth: | I. aquifolium |
Enw deuenwol | |
Ilex aquifolium L. | |
Mae'r goeden fechan hon yn gysylltiedig â'r Nadolig; yn aml iawn, yr unig addurn a arferid ei gael mewn tŷ fyddai clwff (neu gangen) o gelyn. Enw arall arni ydy'r 'gelynnen' a cheir y ffurf 'celynnin' fel sydd yn yr enw Llangelynnin hefyd. Ceir cân werin o'r un enw; dyma'r pennill cyntaf (sylwer ar yr odl fewnol rhwng y drydedd a'r bedwaredd linell):
- Fy mwyn gyfeillion dewch yn llu,
- Mae'n bryd i mi ganmol y glasbren;
- Pren canmolus, gweddus gwiw
- A'i henw yw 'y gelynen'.[1]
Mae'n frodorol o orllewin a de Ewrop, gogledd-orllewin Affrica a de-ddwyrain Asia,[2][3] ac fe'i gwelir yn aml mewn llefydd cysgodol, yn enwedig mewn coedwigoedd o goed ffawydd. Er hyn, gall addasu i gynefinoedd, amgylchiadau a hinsawdd gwahanol yn enwedig ar ffiniau coedwigoedd.
Llwyn neu goeden fach, bythwyrdd, y dail isaf yn bigog, y rhai uchaf yn llai felly. Y blodau gwryw a benyw yn tyfu ar goed gwahanol. Yr aeron (ar y coed benywaidd) yn wyrdd i ddechrau ac wedyn yn goch. Aeron y celyn yw'r rhai mwyaf parhaus o holl aeron ein llwyni cynhenid, weithiau yn para ymhell heibio'r gaeaf i'r gwanwyn canlynol a hyd yn oed yr haf. Bonfreithod megis y gaseg ddrycin a'r socen eira sydd yn bennaf gyfrifol am eu parhad mae'n debyg trwy eu hamddiffyn rhag eraill. Coeden y goedwig a phridd cyfoethog ac ychydig o bori yw'r celyn.