cyn garchar yn Iwerddon From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyn-garchar Prydeinig yw Kilmainham Gaol (Gwyddeleg: Príosún Chill Mhaighneann) a ddefnyddiwyd i ddal nifer o chwyldroadwyr Cenedlaetholgar Gwrthryfel y Pasg (1916) yn garcharorion a'u dienyddio. Mae bellach yn amgueddfa ac ar agor i'r cyhoedd. Adnewyddwyd yr hen adeilad yn y 1950au.
Math | defunct prison, prison museum |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1796, 1960s |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Kilmainham |
Sir | Swydd Dulyn, Dulyn, Kilmainham |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Cyfesurynnau | 53.3417°N 6.3094°W |
Statws treftadaeth | cofadail cenedlaethol Iwerddon |
Manylion | |
Mae hanes y carchar yn rhychwantu cyfnod pwysig yn hanes Iwerddon. Fe'i codwyd adeg y Ddeddf Uno, a'i gau yn dilyn sefydlu Saorstáit Éireann (Gwladwriaeth Rydd Iwerddon). Pan godwyd yr adeilad yn gyntaf yn 1796, fe'i galwyd "an priosún nua" ('y carchar newydd') i wahaniaethu rhyngddo a'r hen garchar tua dau gan metr i ffwrdd. Yna fe'i galwyd yn "Garchar Dinas Dulyn". Arferid crogi pobl o flaen y carchar yn dyddiau cynnar, ond ychydig iawn a grogwyd - yn gyhoeddus neu fel arall - o'r 1820au ymlaen.[1] Adeiladwyd 'cell grogi' yma yn 1819, ar y llawr cyntaf, rhwng yr adain ddwyreiniol a'r adain orllewinol.[1]
Cedwid i fyny at bump o bobl ymhob cell, heb wahanu o ran rhyw nag oedran: bu i blant mor ifanc â saith rannu cell gyda merched a dynion. Byddai ganddynt un gannwyll, a rhaid i honno bara am bythefnos. Prin fod iddynt gynhesrwydd na golau o gwbwl. Roedd pob cell ryw 28 metr sgwâr.[1] Yn aml y gwelid yr oedolion yn cael eu dedfrydu i'w halltudio i Awstralia.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.