![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8f/ISS028-E-36723_-_View_of_Java.jpg/640px-ISS028-E-36723_-_View_of_Java.jpg&w=640&q=50)
Canolbarth Jawa
From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o daleithiau Indonesia yw Canolbarth Jawa (Indoneseg: Jawa Tengah). Mae'n ffurfio rhan ganol ynys Jawa, ac roedd y boblogaeth yn 32,864,000 yn 2009. Y brifddinas yw Semarang.
![]() | |
![]() | |
Arwyddair | Prasetya Ulah Sakti Bhakti Praja ![]() |
---|---|
Math | talaith Indonesia ![]() |
Prifddinas | Semarang ![]() |
Poblogaeth | 34,897,757 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Ganjar Pranowo ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Indonesia ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 32,800.69 ±0.01 km² ![]() |
Uwch y môr | 561 metr ![]() |
Gerllaw | Cefnfor India, Y Môr Java ![]() |
Yn ffinio gyda | Dwyrain Jawa, Daérah Istiméwa Yogyakarta, Gorllewin Jawa ![]() |
Cyfesurynnau | 7.5°S 110°E ![]() |
Cod post | 50xxx, 51xxx, 52xxx ![]() |
ID-JT ![]() | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Central Java ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Ganjar Pranowo ![]() |
![]() | |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4c/IndonesiaCentralJava.png/640px-IndonesiaCentralJava.png)
Mae'r dalaith yn ffinio ar daleithiau Gorllewin Jawa yn y gorllewin a Dwyrain Jawa yn y de, tra mae Ardal Arbennig Yogyakarta yn cael ei hamgylchynu gan y dalaith. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Fôr Jawa ac yn y de ar Gefnfor India. Ceir nifer o losgfynyddoedd yma, yn cynnwys Mynydd Merapi a Mynydd Merbabu. Mae'r tir yn ffrwythlon, a thyfir reis ar draws ardal helaeth o'r dalaith. Mae dinasoedd y dalaith yn cynnwys Magelang, Pekalongan, Salatiga, Semarang, Surakarta a Tegal.
Mae'r dalaith yn cynnwys temlau hanesyddol Borobudur a Prambanan, y ddwy ynSafle Treftadaeth y Byd.
Taleithiau Indonesia | ![]() |
---|---|
Aceh | Ardal Arbennig y Brifddinas Jakarta | Ardal Arbennig Yogyakarta | Bali | Bangka-Belitung | Banten | Bengkulu | Canolbarth Jawa | Canolbarth Kalimantan | Canolbarth Sulawesi | De Kalimantan | De Sulawesi | De Sumatra | De-ddwyrain Sulawesi | Dwyrain Jawa | Dwyrain Kalimantan | Dwyrain Nusa Tenggara | Gogledd Maluku | Gogledd Sulawesi | Gogledd Sumatra | Gorllewin Jawa | Gorllewin Kalimantan | Gorllewin Nusa Tenggara | Gorllewin Papua | Gorllewin Sulawesi | Gorllewin Sumatra | Jambi | Lampung | Maluku | Papua | Riau | Ynysoedd Riau |