From Wikipedia, the free encyclopedia
Clwb pêl-droed o'r Drenewydd, Powys ydy Clwb Pêl-droed Y Drenewydd (Saesneg: Newtown Association Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru ac maent wedi codi tlws Cwpan Cymru ar ddau achlysur; ym 1878-79 a 1894-95[1].
Enw llawn | Clwb Pêl-droed | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | Y Sêr Gwyn | ||
Sefydlwyd | 1875 (fel Sêr Gwyn Y Drenewydd) | ||
Maes | Parc Latham | ||
Cadeirydd | Elwyn Preece | ||
Rheolwr | Chris Hughes | ||
Cynghrair | Uwch Gynghrair Cymru | ||
2023/24 | 4. | ||
|
Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Barc Latham, Y Drenewydd, maes sy'n dal uchafswm o 5,000 o dorf gyda 1,110 o seddi.
Mae'r clwb presennol yn deillio o uniad rhwng clybiau pêl-droed Newtown White Star a Newtown Excelsior yn ystod y 1870au. Ffurfiwyd Newtown White Star ym 1875 gan ddod yn aelod gwreiddiol o Gymdeithas Bêl-droed Cymru[1]. Chwaraeodd Excelsior a chlwb o'r enw Newtown yng nghystadleuaeth cyntaf Cwpan Cymru ym 1877[2] gyda gêm Y Drenewydd yn erbyn Y Derwyddon ar 13 Hydref, 1877 y gêm gyntaf erioed yn hanes y gystadleuaeth[3].
Ymunodd y clwb â chynghrairâ'r Combination League ym 1899-1900[4] ond, ar ôl tymor yn unig, dychwelodd Y Drenewydd i chwarae mewn cynghreiriau lleol. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd Y Drenewydd â Chynghrair Canolbarth Cymru gan ennill y bencampwriaeth ym 1975–76, 1978–79, 1981–82, 1986–87 a 1987–88[5].
Ar sail eu pencampwriaethau yn y 1970au a'r 1980au sicrhaodd Y Drenewydd eu lle ym mhyramid pêl-droed Lloegr gan ymuno ag Adran 1 o'r HFS Loans League - tair rheng yn is na Chynghrair Lloegr - ynghyd â chlybiau Cymreig eraill fel Bangor, Y Rhyl, Bae Colwyn a Chaernarfon, ond ym 1992 dychwelodd Y Drenewydd i Gymru er mwyn ymuno â chynghrair newydd cenedlaethol Cymru.
Tymor | Cystadleuaeth | Rownd | Clwb | Cymal 1af | 2il Gymal | Dros Ddau Gymal |
---|---|---|---|---|---|---|
1996-97 | Cwpan UEFA | Rd. Rhag | Skonto Riga | 1-4 | 0-3 | 1-7 |
1998-99 | Cwpan UEFA | Rd. Rhag | Wisla Krakow | 0-0 | 0-7 | 0-7 |
2015–16 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | Valletta | 2-1 | 2-1 | 4-2 |
Rhag 2 | F.C. København | 0-2 | 1-3 | 1-5 | ||
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.