clwb pêl-droed, Caerdydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Clwb pêl-droed Cymraeg ei weinyddiaeth a'i fywyd cymdeithasol yng Nghaerdydd yw Clwb Pêl-droed Cymric.
Sefydlwyd y clwb yn swyddogol yn 1969 gan chwarae ei dymor gyntaf yn nhymor 1968-69 yn Adran Pump, Cynghrair Caerdydd a'r Cylch. Ysbrydolwyd sefydlu'r clwb pêl-droed gan sefydlu Clwb Rygbi Cymry Caerdydd yn 1967. Enw gwreiddiol y clwb oedd "Clwb Pê-droed Cymry Caerdydd". Ceir sôn am y clwb yn y rhifyn cyntaf un o'r Y Dinesydd yn 1974 gan nodi'r berthynas agos rhwng aelodau'r clwb a'r papur.[2]
Mae’r tim pêl-droed oedolion bellach yn chware yn y “South Wales Alliance League”. Maes chwarae cartref Cymric oeedd cae Cwrt-yr-Ala yn ardal Trelái, Caerdydd ond ers yr 2020au maent yn chwarea yn Arena Ocean Park ym Mae Caerdydd.
Erbyn 2024 roedd y Clwb wedi esblygu i gynnwys timau a champau eraill gan gynnwys, tri tîm dynion, tîm Merched Pêl-droed, Clwb Pêl-drwyd Merched Cymric, Clwb Hoci Merched Cymric, a thua 750 o ferched a bechgyn oedran ysgol yn chwarae mewn thimau gyda'r clwb.[3]
Chwaraeodd y tîm eu gêm gyntaf yn gwisgo crysau a sannau coch a thrwsus gwyrdd ond gan mai gwyrdd oedd lliw crysau'r gwrthwynebwyr hefyd, bu rhaid i'r Cymric chwarae eu gêm gyntaf yn eu crwyn.[4] Mabwysiadwyd y cit swyddogol o grysau gyda streipiau gwyrdd a gwyn lloreweddol ar gyfer tymor 1985-86 pan chwaraeodd Cymric yn Uwch Gynghrair Caerdydd a'r Cylch am y tro cyntaf.
Dros y blynyddoedd mae'r cit wedi newid sawl gwaith. Bellach crys gyda streipiau gwyrdd a gwyn lloewddol cit cyntaf - strip tebyg i un Celtic F.C..
Mae'r clwb yn cynnwys:
Ers tymor 2006-07 dyfernir Gwobr Carwyn ar gyfer cyfraniad gan chwaraewr i'r clwb dros y tymor. Enwir y wobr er cof am Carwyn Thomas, oedd yn wreiddiol o Dregarth ger Bangor a bu'n chwaraewr flaenllaw i'r clwb am ddegawd ond bu farw yn 2006. Cyn ei farwolaeth Carwyn oedd yr unig chwaraewr i ennill gwobr 'Chwaraewr y Flwyddyn' i'r ail dîm a'r tîm cyntaf. Ef hefyd ddyluniodd arwyddlun y clwb.
Ceir englyn i'r Cymric a gyfansoddwyd gan Carwyn Eckley:
Waeth o le o'r Sowth o Lŷn - ni ddynion
y ddinas sy'n perthyn
Dan undod y bathodyn
mond Cymric sy'n cynnig hyn
Yn nhymor 2024-25 bu i'r Clwb gyrraedd ail rownd Cwpan Cymru gan wynebu C.P.D. Llanelli yng nghartref Cymric sef canolfan Arena Ocean Park[5] ym Mae Caerdydd. Bu i'r clwb golli 0-3 i Lanelli, ond dyma uchafbwynt Cymric yn y gystadleuaeth hyd at y dyddiad hynny.[6][7] Ar y pryd roedd Cymric ym 5ed haen pyramid Cymru a Llanelli yn yr 2il haen (Adran Cymru South).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.